Cais i brynu tai ar stryd yn Llandudno yn codi gwrychyn perchnogion lleol

Cais i brynu tai ar stryd yn Llandudno yn codi gwrychyn perchnogion lleol

NS4C

Mae dynes o Sir Conwy wedi disgrifio derbyn llythyr yn gofyn iddi pe bai ganddi ddiddordeb gwerthu ei chartref ar gyfer ei ddefnyddio fel tŷ haf yn "dorcalonnus".

Roedd Dawn McGuinness, sydd yn byw ar y Gogarth ger Llandudno, wedi derbyn llythyr ddydd Mercher gan unigolyn o Fanceinion oedd wedi mynegi diddordeb mewn prynu ei thŷ, er nad oedd ar werth.

Roedd llythyrau gan yr unigolyn wedi ei anfon at 15 o berchnogion tai ar ei stryd meddai.

Mae ysgrifennwr y llythyr wedi ymddiheuro am achosi unrhyw bryder.

Er ei bod wedi derbyn llythyrau gan bobl o Loegr yn gofyn iddi ystyried eu cais pe bai hi’n penderfynu gwerthu ei thŷ yn y gorffennol, dywedodd Dawn McGuinness mai’r llythyr diweddaraf oedd yr un mwyaf “dychrynllyd”.

“Rydym ni’n byw ar stryd sydd â chymuned glos,” dywedodd wrth Newyddion S4C.

“Mae hi’n ardal fendigedig yma – a dwi’n deall pan fod gymaint eisiau byw yma.

“Nid dyma ydy’r tro cyntaf i mi dderbyn llythyr fel hyn. Ond yn sicr, hwn oedd yr un cyntaf i fy syfrdanu ac yn sicr yn fy ngwneud i’n flin.

“Yn yr ail baragraff – mae’n sôn am fy nhŷ i fel petasai hi’n fuddsoddiad. Nid buddsoddiad yw fy nhŷ i – fy nghartref i yw hwn.

Image
Yr olygfa o gartref Dawn McGuinness
Yr olygfa o gartref Ms. McGuinness

Ychwanegodd: “I gychwyn efo’i oeddwn ni’n flin iawn – roedd fy ngwaed yn berwi. Mi nes i gysylltu gyda’r dyn a dweud wrtho nad oedd ganddo unrhyw barch tuag at y Cymry na’r Gymraeg.

“Mae gan Gonwy un o’r cyflogau isaf yn y Deyrnas Unedig. Mae fy mhlant i mewn perygl o golli allan ar brynu tŷ yn eu hardal nhw oherwydd pobl fel y dyn yma”.

Mae Newyddion S4C wedi siarad gyda’r unigolyn a anfonodd y llythyr. Nid oedd am wneud cyfweliad, ond roedd yn ymddiheuro am unrhyw bryder a gafodd ei achosi.

Mae Dawn McGuinness nawr yn galw ar bobl i beidio ysgrifennu llythyron o’r fath yn annog pobl i werthu eu tai.

“Mae’r sefyllfa yn argyfwng,” ychwanegodd.

“Ac mae rhaid nodi bod pobl leol yr un mor ddrwg am ddefnyddio tai fel tai haf neu lety.

“Ni ddylai cartrefi yng Nghymru cael eu defnyddio am broffit. Mae hyn yn oresgyniad ar ein ffordd o fwy, ein cymunedau, a’r iaith.

“Mae llythyrau o’i fath yn oresgyniad ar ein bywydau, cartrefi ac ein preifatrwydd”, meddai