Newyddion S4C

Gwellhad 'gwyrthiol' i fyfyrwraig doedd methu agor ei llygaid oherwydd ecsema

19/04/2024
Megan Jones

Mae myfyrwraig oedd yn dioddef ecsema mor ddrwg ei fod wedi selio ei llygaid a’i gwefusau ar gau wedi adennill ei hyder ar ôl dod o hyd i wellhad “gwyrthiol”.

Mae Megan Jones, 22, myfyrwraig o Gaerffili sy’n astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, yn cofio’r teimlad bod ei hwyneb yn “toddi” wrth geisio cuddio problemau ei chroen gyda cholur ym mis Tachwedd 2021.

Yn dioddef gyda marciau coch poenus ar draws ei hwyneb, byddai Megan yn gwrthod gadael y tŷ am hyd at bythefnos ar y tro.

Mae'n cofio'r gwaethaf yn digwydd ychydig cyn ei phen-blwydd yn 20 oed yn 2021, pan ddeffrodd yn methu ag agor ei llygaid a'i cheg.

“Roeddwn i mewn cymaint o boen, doeddwn i ddim yn gallu symud fy ngheg, a doeddwn i ddim yn gallu siarad, dim ond mumblo y gallwn i," meddai.

Cyrhaeddodd bwynt lle symudodd Megan allan o'i neuadd breswyl i fynd adref a pheidio â mynychu'r brifysgol na'i swydd ran amser am fis gan ei bod yn teimlo'n hunanymwybodol o'i hymddangosiad.

'Pawb yn syllu'

“Doeddwn i erioed wedi teimlo’n hunanymwybodol am fy nghroen cyn y flare up diweddaraf hwn cwpl o flynyddoedd yn ôl," meddai.

“Roedd ecsema bob amser yn rhywbeth roeddwn i wedi delio ag ef ond nid oedd erioed wedi bod mor ddrwg â hyn o’r blaen ac roeddwn i’n teimlo bod pawb yn syllu ar fy nghroen drwy’r amser.

“Roedd ffrindiau’n neis ond doedd pobl nad oeddwn i’n eu hadnabod ddim hyd yn oed yn ceisio cuddio’r ffaith eu bod nhw’n syllu arna i.

Mae Megan wedi cael ecsema ers oedd hi'n faban ac roedd yn cofio sut y byddai ei mam yn disgrifio pa mor wael y byddai ei chroen.

“Cefais fy ngeni â chroen ofnadwy iawn ac roedd gennyf broblemau croen eraill fel clefyd melyn," meddai.

“Roedd fy nghroen yn ofnadwy ac roedd mam yn ei ddisgrifio weithiau fel pe bai gen i losgiadau ar hyd fy wyneb a'm corff.”

Image
Megan Jones
Ni fyddai Megan yn gadael y tŷ oherwydd y ffordd roedd hi'n edrych. Llun: PA

Gyda chymorth hufenau a ragnodwyd gan y meddyg, roedd modd i Megan reoli ei phroblemau croen ond bob rhyw saith mlynedd byddai'r broblem yn dychwelyd.

Ychwanegodd: “Fe aeth yn ddrwg iawn eto pan oeddwn i’n saith oed ac eto pan oeddwn yn 14, yna chwe blynedd ar ôl hynny pan oeddwn ar fin troi’n 20.

“Yn ffodus, doeddwn i erioed wedi teimlo’n rhy hunanymwybodol amdano, dim ond rhywbeth oedd gen i a oedd braidd yn boenus ond nid oedd byth yn rhy ddrwg tan 2021.”

Ond er y byddai'r broblem yn dychwelyd ar ei gwddf a'i breichiau, lledaenodd y dolur diweddaraf a marciau coch o amgylch ei hwyneb, gan wneud i'w llygaid chwyddo.

Meddai: “Yn llythrennol doedd gen i ddim syniad sut i’w reoli, roeddwn i’n teimlo bod pawb yn syllu arna’ i, roedd yn ofnadwy.

“Cyrhaeddodd y pwynt lle byddwn i’n gwrthod mynd allan am ryw bythefnos ar y tro.

“Es i ar daith i Lundain ychydig cyn fy mhen-blwydd yn 20 oed ac fe wnes i roi colur ymlaen i geisio ei guddio oherwydd roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy iawn am fy nghroen coch.

“Roedd hi’n aeaf ac roedd hi’n oer iawn ac roedd fy nghroen i’n mynd yn fwy a mwy flaky a choch ac yn cracio o hyd.

“Cyrhaeddodd y pwynt lle bu’n rhaid i mi fynd i Boots i gael make up remover a moisturiser i dynnu’r cyfan, roedd yn edrych fel bod fy nghroen yn toddi.

“Mae’r ffaith fod fy nghroen yn aros yn hollol glir nawr yn teimlo fel gwyrth.

“Erbyn hyn mae gen i ap ar fy ffôn sy’n fy ngalluogi i sganio cynhwysion cynhyrchion oherwydd rydw i mor wyliadwrus o’r hyn rydw i’n ei roi ar fy nghroen a dydw i ddim eisiau unrhyw beth i sbarduno flare up arall.”

'Gwirioneddol wych'

Dros y blynyddoedd mae Megan wedi defnyddio hufen steroid, gwrthfiotigau a thabledi gwrth-firol, ond roedd yn ymddangos nad oedd dim yn gweithio nes i’w mam archebu potel o leithydd (moisturiser) MooGoo tua wythnos ar ôl ei phen-blwydd ym mis Tachwedd 2021.

“Fe brynodd mam y balm croen sensitif a’r lleithydd hufen llawn naturiol yr oeddwn yn ei ddefnyddio ochr yn ochr am rai dyddiau," meddai.

"Dwi ddim yn eich twyllo, o fewn dau neu dri diwrnod, roedd fy nghroen wedi mynd o fod yn hollol ofnadwy - coch, dolur, sych a flaky - i bron yn glir.

“Roeddwn i’n gallu siarad eto, roeddwn i’n gallu agor fy llygaid ac roeddwn i’n teimlo ychydig yn fwy llawn bywyd. Ond i mi, roeddwn i’n gallu mynd allan ac roedd hynny’n teimlo fel gwyrth.”

Image
Megan Jones
Bellach mae Megan wedi adennill ei hyder. Llun: PA

Nawr, mae Megan yn defnyddio'r lleithydd ddwywaith y dydd - unwaith yn y bore ac unwaith yn y nos - ac nid yw wedi profi fflamychiad ers hynny.

Roedd hi'n cofio mai'r gaeaf diwethaf hwn oedd y tro cyntaf iddi sylwi nad oedd ei chroen hyd yn oed yn ymddangos yn sych yn y tywydd oerach.

Ychwanegodd Megan: “Mae wedi bod yn un o’r gaeafau cyntaf lle rydw i wedi sylwi bod fy nghroen yn dda.

“Doedd gen i ddim croen flaky, doedd fy nhalcen ddim yn edrych fel ei fod yn plicio i ffwrdd. Roedd fy mreichiau, cefn fy mhengliniau a chlustiau i gyd yn edrych yn normal...mae'n wirioneddol wych.

“I mi, mae gen i hyder fy nghroen yn ôl.”

Prif lun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.