Carcharu dyn oedd wedi cymryd cocên cyn gwrthdrawiad angheuol
Mae dyn a oedd bedair gwaith dros y terfyn cyfreithiol am gyffuriau cyn gwrthdrawiad angheuol yn Wrecsam wedi cael ei garcharu.
Cafodd Dale Hilton, 42, o Johnstown ei ddedfrydu i bedair blynedd o garchar yn dilyn gwrthdrawiad lle bu farw George Ian Stevenson, 86, ar 2 Mawrth 2022.
Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd a bydd rhaid iddo gymryd prawf gyrru ychwanegol cyn cael ei drwydded yn ôl. Bydd rhaid iddo hefyd dalu £190 o iawndal.
Digwyddodd y gwrthdrawiad toc wedi 19:30 ar y Stryd Fawr rhwng car Citroen C2 a oedd yn cael ei yrru gan Hilton, gan daro Mr Stevenson, a oedd yn croesi’r ffordd gerllaw.
Cludwyd Mr Stevenson i Ysbyty Maelor yn Wrecsam ond bu farw ar 3 Mawrth.
Ar ôl cael ei brofi'n positif am gocên ar ochr y ffordd, cafodd Hilton ei arestio ac fe aeth i’r ddalfa. Cafodd ei ryddhau dan ymchwiliad tra bod profion pellach yn cael eu cynnal. Daeth y canlyniadau yn ôl i ddangos ei fod pedair gwaith dros y terfyn cyfreithiol.
Wrth siarad ar ôl y gwrandawiad, fe ddywedodd PC Jo Roberts o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ei ffordd o weithredu wedi peri i deulu golli tad a thaid cariadus, ynghyd â theulu a ffrindiau ehangach sydd wedi cael eu llorio gan ei farwolaeth.
“Cafodd agwedd ddi-hid Hilton wrth yrru ar gyffuriau ei grynhoi yn ei benderfyniad i yrru eto ar ôl cymryd cyffuriau, er ei fod yn ymwybodol ei fod o dan ymchwiliad am achosi marwolaeth dyn.
“Ni all unrhyw ddedfryd wneud iawn am y niwed y mae Dale Hilton wedi ei wneud, ond dwi’n gobeithio’n fawr, er ei fod wedi ei ganfod yn euog gan y rheithgor a bydd yn treulio amser yn y carchar, y bydd teulu Mr Stevenson yn dod o hyd i rywfaint o heddwch."
Llun: Heddlu Gogledd Cymru