Newyddion S4C

Mwy o blant oedran ysgol feithrin ar-lein ac yn berchen ar ffôn symudol

19/04/2024
Plentyn ar-lein

Mae chwarter o blant rhwng pump a saith oed bellach yn berchen ar ffôn symudol, medd Ofcom. 

Ac yn ôl rheoleiddiwr y diwydiant cyfathrebu, mae nifer cynyddol o blant oedran ysgol feithrin hefyd efo mwy o ryddid i ddefnyddio’r we yn annibynnol, heb eu rhieni. 

Yn ei adroddiad blynyddol ar berthynas plant a’r cyfryngau, dywedodd Ofcom fod nifer y plant rhwng pump a saith oed, oedd yn mynd ar-lein i yrru negeseuon neu wneud galwadau ffôn, wedi codi gan 6% ers y llynedd – gan olygu bod 65% o blant rhwng yr oedrannau rheiny bellach yn eu gwneud eleni. 

Mai’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol gan blant rhwng pump a saith oed hefyd wedi cynyddu, gyda 38% ohonynt yn defnyddio WhatsApp, TikTok, Instagram a Discord – er ei fod yn ofynnol i ddefnyddwyr bod yn 13 oed neu’n uwch er mwyn cael cyfrif.

Ac er bod 42% o rieni wedi dweud eu bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol gyda’u plant, dywedodd 38% eu bod yn caniatáu i’w plant ddefnyddio’r gwefannau yn annibynnol.

Mae nifer y rhieni sydd wedi dweud eu bod yn fwy tebygol o alluogi i’w plant gael cyfrif personol ar y cyfryngau cymdeithasol cyn eu bod wedi cyrraedd yr oedran trothwy hefyd wedi cynyddu o 25% i 30%, meddai’r adroddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.