Newyddion S4C

Rhwystredigaeth preswylwyr sy'n wynebu costau cynnal a chadw cynyddol

18/04/2024

Rhwystredigaeth preswylwyr sy'n wynebu costau cynnal a chadw cynyddol

"Pethau 'di rhydu neu ddiffyg paentio."

Mae 'na restr o bethau i'w wneud i wella adeilad Llys Newydd ger Llanelli.

Mae Hefin Dafydd wedi bod yn byw yn ei fflat ers mis Rhagfyr dwetha.

Talu les mae Hefin sy'n golygu bod rhaid iddo dalu ffi i reolwyr yr adeilad ar gyfer costau cynnal a chadw.

Dros gyfnod o bum mlynedd, mae'r gost wedi codi a chodi.

Cynnydd o 145%, o £1,080 yn 2019 i dros £2,600 eleni.

Ar ol prynu'r fflat, ar ryw bwynt fydda i'n meddwl am ei werthu.

"Yn anffodus dw i 'di meddwl am hynny cyn gynted a dw i 'di prynu.

"Mae rhywun isio gwerth y fflat godi.

"Heb gynnal a chadw does 'na'm ond un ffordd bydd y pris yn mynd, i lawr.

"Mae hynna yn fy mhoeni i."

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am dai yng Nghymru ond mae 'na rai cyfreithiau yng ngofal Llywodraeth y DU.

Maen nhw'n dweud bod nhw'n disgwyl i landlordiaid i drafod a phreswylwyr ynghylch costau gwaith mawr lle bod cyfiawnhad dros wneud hynny.

Mae codi costau na allen nhw gyfiawnhau yn gwbl annerbyniol.

Mae mesur sy'n edrych ar newid y sefyllfa yn mynd drwy'r Senedd yn San Steffan ar hyn o bryd.

Y gobaith yw gwneud hi'n fwy clir i bobl wybod os oes taliadau ychwanegol i'w gwneud.

Ar ben hynny mae Llywodraeth Prydain yn gobeithio dod a'r arfer o godi les ar dai i ben.

Mae 'na alw nawr am ymestyn hyn i fflatiau hefyd.

"Y ffaith yw unwaith chi wedi symud mewn wrth gwrs os mae'r ffioedd yn mynd lan a lan a chi ddim yn gallu talu mae 'na berygl bod chi'n colli tai hefyd."

I landlordiaid, mae'r diwygiad yn gam ymlaen.

"Yr hyn 'dan ni 'di gweld ar lawr gwlad ydy bod cwmniau mawr wedi dod mewn i'r farchnad.

"Maen nhw'n codi prisiau mewn dinas fel Birmingham ar gyfer pobl yng nghefn gwlad Cymru.

"Be sy'n bwysig ydy bod penderfyniadau yn cael eu gwneud mor agos â phosib i'r adeilad yn lleol."

Principal Estate Management o Birmingham sy'n rheoli Llys Newydd.

Anaml iawn maen nhw'n ymweld â'r adeilad yn ôl Hefin.

Fe ofynnon ni am sylw gan y cwmni ond chafon ni ddim ymateb.

"Ie, mae o dal yn gartre ar ddiwedd y dydd.

"Dw i jyst efo pawb arall sy'n byw yma jyst yn gobeithio am y gorau."

Does unman yn debyg i adra, medden nhw, ond i Hefin ac eraill mae'r biliau cynyddol yn golygu ei bod hi'n anodd cadw'r blaidd o'r drws.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.