Newyddion S4C

Sage Todz: Angen 'normaleiddio' siarad yn agored er lles dynion ifanc

19/04/2024
Sage Todz

Mae’r artist rap o Wynedd, Sage Todz wedi annog dynion ifanc i siarad yn agored am eu teimladau.

“Mae o’n beth peryg i gadw rwbath tu mewn, dio’m otsh beth yw’r teimlad,” meddai. 

“Rhaid i chdi un ai siarad amdano fo, sgwennu amdano fo… ma’ rhaid i chdi ‘neud rhwbath amdano fo neu fel pobl, mae’n dod allan mewn ffordd ti ddim yn controlio.” 

Fe allai siarad am eich teimladau chwarae rôl “bwysig” wrth geisio “normaleisio pethau” i ddynion ifanc, meddai’r cerddor. 

“Os ma hwnna’n bod yn vulnerable drwy’r miwsig neu gael chat bach mae’n gallu neud lot o wahaniaeth.”

Image
Sage Todz

'Heriol'

Ond mae hefyd yn cydnabod y gallai llawer o ddynion wynebu heriau wrth iddyn nhw geisio siarad am eu teimladau. 

“Gall fod yn anodd bod yn agored oherwydd fel dyn ifanc, dwi’n gweithio’n well gydag atebion yn hytrach na siarad. 

“Os ydw i'n siarad am rywbeth, byddai'n well gen i gael ateb yn hytrach na siarad am sut dwi'n teimlo. 

“Dwi’n meddwl bod llawer o ddynion ifanc yn teimlo felna a does dim lle i fynd am ateb ymarferol bob amser.”

'Angen pwrpas'

Fe ddaw ei sylwadau fel rhan o ymgyrch ‘Iawn’ gan Lywodraeth Cymru sy’n annog dynion ifanc i gymryd cyfrifoldeb am eu hunain, a hynny er mwyn ceisio mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. 

Ac wrth siarad â’r cyflwynydd Luke Davies, fe aeth y rapiwr ati i drafod y pwysigrwydd o gael dylanwad gwrywaidd positif yn ei fywyd: “Mae gen i blueprints da, mae fy nhad yn enghraifft enfawr o fodel rôl wrywaidd wych, yn bendant.” 

Mae’n dweud bod “pwrpas”  hefyd yn hollbwysig i ddynion ifanc, a hynny wedi dylanwadu ar sut mae ef ei hunan yn byw ei fywyd. 

“Pwrpas sy’n dewis..sy’n gwneud dewision i chdi. Wel i fi eniwe, dyna pam dwi yng Nghaerdydd achos dwi’n dilyn pwrpas fi,” meddai.

Image
Sage Todz
Sage Todz a Luke Davies

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.