Newyddion S4C

Carcharu dau frawd o Fôn am ymosod ar ddyn bregus yn ei gartref

18/04/2024
Ymosodiad dau frawd

Mae dau frawd o Fôn a wnaeth ymosod ar ddyn bregus yn ei gartref wedi cael eu carcharu. 

Fe gafodd Gareth Hughes, 43, o Faes yr Haf, Caergybi a'i frawd, Peter Hughes, 35, o Cleveland Crescent, Caergybi eu dedfrydu i dair blynedd a thri mis yr un yn y carchar, wedi i’r pâr bledio’n euog i achosi niwed corfforol difrifol anfwriadol i ddyn arall yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth. 

Roedd y ddau ddyn wedi ymosod ar y dyn bregus yn ei gartref ei hun yng Nghaergybi ar 4 Tachwedd y llynedd, wedi iddo ateb y drws i’r brodyr oherwydd ei fod dan yr argraff mai ffrind oedd yno.

Fe ymosododd y brodyr ar y dyn gan ei gyhuddo o gynllwynio yn erbyn un ohonyn nhw. 

Cafodd y dyn ei ddyrnu a'i sathru, cyn i’r brodyr daflu teledu ato. Fe gafodd sawl clwyf i’w wyneb ac fe gafodd rhai o’i asennau eu torri, yn ogystal â dioddef niwed i’w olwg. 

Daeth yr ymosodiad i ben pan ddywedodd y dioddefwr wrth y ddau fod yr honiadau yn ei erbyn yn ffug.

Fe gysylltodd y dyn gyda’r gwasanaethau brys wedi’r ymosodiad ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty er mwyn derbyn triniaeth am ei anafiadau.

Mae’r brodyr hefyd wedi cael gorchymyn atal fydd yn para am gyfnod o 10 mlynedd er mwyn gwarchod y dyn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.