Llofruddiaeth Caerdydd: Arestio dyn ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr mewn cysylltiad â llofruddiaeth yng Nghaerdydd.
Bu farw Colin Richards o Drelluest (Grangetown) yn Nhrelái yn gynharach yn y mis.
Fe gafodd dyn 33 oed o ardal Caerau ei arestio nos Fercher, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae teulu Mr Richards wedi cael gwybod am y datblygiad ac yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am ddau ddyn ar amheuaeth o lofruddio’r tad i saith o blant.
Mae’r llu yn chwilio am Corey Gauci, 18 oed o Gaerdydd, a James O’Driscoll, 26 oed o Gaerdydd, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel ‘Jimmy’.
Mae Heddlu De Cymru wedi rhybuddio pobl i beidio siarad â Mr Gauci neu Mr O’Driscoll, gan annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r llu ar unwaith.
Fe gafodd Mr Richards ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Snowdon yn Nhrelái wedi i’r gwasanaethau brys ymateb i alwad yn ardal Heol-Y-Berllan a Heol Trelái yng Nghaerau cyn 23.30 ddydd Sul, 7 Ebrill.
Bu farw Mr Richards o ganlyniad i glwyf angheuol wedi iddo gael ei drywanu, yn ôl yr heddlu.
Mae’r elusen Crimestoppers wedi cynnig gwobr o £10,000 am unrhyw wybodaeth allai arwain at arestio’r dynion.