Trafferthion ym maes awyr Dubai wedi llifogydd sydyn yn y Gwlff
Mae trafferthion yn parhau ym maes awyr Dubai wedi llifogydd yn y Gwlff dros y dyddiau diwethaf.
Rhybuddiodd Maes Awyr Rhyngwladol Dubai am "amodau heriol iawn", gan gynghori rhai teithwyr i beidio dod i'r maes awyr gan bod rhai ardaloedd yn llawn dŵr.
Fe gafodd tua 300 o hediadau, i ac o Faes Awyr Rhyngwladol Dubai, eu canslo, gyda channoedd yn fwy wedi eu gohirio ddydd Mercher.
Dyma'r ail faes awyr prysuraf yn y byd, gyda mwy na 80 miliwn o deithwyr yn ei ddefnyddio y llynedd.
Rhybuddiodd y maes awyr y byddai'r gwaith adfer yno yn "cymryd peth amser."
Mae awdurdodau wedi rhybuddio fod stormydd mellt a tharanau, glaw trwm a gwyntoedd cryfion yn cael eu rhagweld o hyd, gyda llawer o ardaloedd isel yn parhau dan ddŵr.
Yn Oman mae o leiaf 19 o bobl wedi cael eu lladd ac eraill dal ar goll.
Fe brofodd Yr Emiradau Arabaidd Unedig eu glaw trymaf ers i gofnodion ddechrau 75 mlynedd yn ôl ddydd Mawrth.
Mae rhanbarth y Gwlff fel arfer yn adnabyddus am dywydd poeth a sych. Ond mae llifogydd wedi digwydd yn fwy rheolaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae rhai yn dweud bod y tywydd eithafol diweddar wedi digwydd yn sgil newid hinsawdd ac y bydd stormydd eithriadol yn digwydd yn fwy cyson yn y dyfodol.