Newyddion S4C

Rhybudd y gallai newid i gynyddu nifer y menywod yn y Senedd fod yn anghyfreithlon

18/04/2024
S4C

Gallai deddfwriaeth newydd a fyddai yn ceisio sicrhau bod o leiaf yr un faint o fenywod a dynion yn cael eu hethol i’r Senedd fod yn anghyfreithlon yn ôl corff gwarchod.

Mewn llythyr at un o bwyllgorau’r Senedd dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y gallai Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) fynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Nod cynllun Llywodraeth Cymru yw bod pleidiau yn cynnig ymgeisydd benywaidd am bob un gwrywaidd ar eu rhestrau ymgeiswyr ar gyfer etholiadau i’r ddeddfwrfa o etholiad 2026 ymlaen.

Os bydd plaid wleidyddol yn cyflwyno rhestr o ddau neu fwy o ymgeiswyr mewn etholaeth Senedd, byddai angen iddynt sicrhau:

  • Bod o leiaf 50% o'u hymgeiswyr yn fenywod
  • Bod bob ymgeisydd ar y rhestr nad ydynt yn fenywod, yn cael eu dilyn yn uniongyrchol gan fenyw, oni bai ei fod yn olaf ar y rhestr

Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn cefnogi’r newid.

Ond dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod ganddyn nhw bryderon am ddefnydd y gair ‘rhywedd’ yn lle ‘rhyw’.

Gallai hynny ganiatáu i bobol ddatgan a ydyn nhw’n fenywod ai peidio gan fynd yn groes i’r ddeddf Cydraddoldeb. 

“Yn benodol, rydym yn pryderu ei bod yn ymddangos bod y Bil yn seilio cymhwysedd i gael ei gynnwys ar y rhestr gwota, ar ddatganiadau ymgeiswyr ynghylch a ydynt yn fenyw ai peidio, ac efallai nad yw hyn ar y cyd â’r term ‘rhywedd’ yn ddigon clir,” medden nhw.

“I grynhoi, gall arwain at gynnwys cwotâu sy’n seiliedig ar ryw hunan-adnabyddedig person yn hytrach na’i ryw gyfreithiol, ac felly gall fod yn anghyson â’r Ddeddf.”

‘Cymhwysedd’

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y pwyslais ar ymgeiswyr i sicrhau eu bod nhw’n darparu’r wybodaeth gywir wrth ddatgan eu rhywedd.

“Fe fydd o fudd i bleidiau ac ymgeiswyr sicrhau bod datganiadau cywir yn cael eu gwneud – fel arall maen nhw mewn perygl o gael eu herio,” medden nhw.

Daw sylwadau y  Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi i Lywydd y Senedd Elin Jones eisoes godi pryderon a oes gan y Senedd y pwerau i basio y deddfwriaeth.

Dywedodd Elin Jones bod hynny'n ymwneud â materion sy'n cael eu rheoli gan senedd San Steffan.

Mewn nodyn gafodd ei gyhoeddi i'r Senedd fis diwethaf, dywedodd y Llywydd nad oedd hi'n credu bod y ddeddf “o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd".

Dywedodd bod y bil "yn ymwneud â chyfle cyfartal sy'n fater a gedwir yn ôl, a'i fod yn addasu'r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl, sef Deddf Cydraddoldeb 2010".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.