Newyddion S4C

Undeb yn galw am adolygu'r drefn o ddelio â chwynion yn erbyn athrawon

17/04/2024
Arholiad TGAU

Mae undeb athrawon wedi galw am adolygu'r drefn o ddelio gyda chwynion yn erbyn athrawon.

Yn ôl UCAC, mae'r drefn bresennol yn golygu bod athro neu athrawes "dan y lach yn syth" pan fydd cwyn yn cael ei wneud.

Daw eu sylwadau wedi i gyhuddiad o gyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn gael ei ollwng yn erbyn athro 26 oed o Wynedd. 

Cafwyd Alun Jones Williams yn ddieuog wedi i'r erlyniad yn yr achos ddweud nad oedden nhw am gynnig unrhyw dystiolaeth yn ei erbyn.

Dywedodd llefarydd ar ran UCAC nad oedden nhw'n dymuno gwneud sylw am unrhyw achos unigol, ond bod y broses gyffredinol o ddelio â chwynion yn peri pryder i athrawon.

"Wrth gwrs, mae'r broses o ddiogelu plant yn bwysig dros ben," meddai'r llefarydd. "Ond fel mae ar hyn o bryd, dydi o ddim yn broses niwtral. Mae'n milwriaethu'n erbyn yr athro neu'r athrawes, ac mae nhw  dan y lach yn syth."

Ychwanegodd bod angen trafodaeth a ddylai athro  neu athrawes dan y fath amgylchiadau gael eu henwi onibai ei fod o neu hi'n eu cael yn euog o drosedd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.