Newyddion S4C

Gwario dros £13 miliwn i wella dwy ysgol ym Mangor

17/04/2024
Ysgol Bangor

Bydd dros £13 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn addysg gynradd ym Mangor, wedi i Gyngor Gwynedd sicrhau cyllid i drawsnewid dwy ysgol yn y ddinas.

Bydd disgyblion a staff Ysgol Ein Harglwyddes yn cael ysgol newydd sbon ar safle newydd, tra bydd Ysgol Hirael yn cael ei thrawsnewid, fel y bydd y ddwy ysgol  "yn gallu darparu addysg gyda’r adnoddau dysgu gorau posib wrth galon y gymuned."

Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau £7.7 miliwn (85% o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a 15% gan Esgobaeth Wrecsam yr Eglwys Gatholig) er mwyn codi ysgol newydd fydd yn cynnig addysg Gatholig ym Mangor ar hen safle Glanadda yn y ddinas.

Mae’r ysgol bresennol mewn cyflwr gwael a bydd yr adeilad newydd yn gartref mwy addas ar gyfer y 150 o ddisgyblion, eu hathrawon a’u cymorthyddion dosbarth. Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys darpariaeth feithrin yn ogystal â chyfleusterau Blynyddoedd Cynnar.

Yn ogystal, bydd £5.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi i drawsnewid Ysgol Hirael, gyda bron i £3.6 miliwn yn dod o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a’r gweddill yn arian cyfatebol gan Gyngor Gwynedd.

Bellach, mae’r estyniadau a godwyd yn y 1970au wedi dod i ddiwedd eu hoes ac nid yw'n gost effeithiol i’w hadnewyddu. Bydd y gwelliannau yn cynnwys gwaith ail-fodelu mewnol i’r gegin, y neuadd a rhai o’r ystafelloedd dosbarth ac adeiladu estyniad newydd ynghyd â sicrhau gwelliannau i’r buarth, er  mwyn sicrhau gofod addas ar gyfer y 210 o ddisgyblion sydd yn yr ysgol.

Bydd yr ysgol yn parhau i fod ar agor drwy gydol y gwaith adeiladu, gyda’r gobaith y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn 2026. 

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:“Mae hyn yn newyddion da iawn i’r disgyblion a’r staff, i gymunedau’r ddwy ysgol ac i ddinas Bangor yn ehangach.

Ein nod ydi gwneud yn siŵr fod gan holl blant y sir fynediad at gyfleusterau addysg modern ac addas. Mae sicrhau hynny i blant Bangor a’r cylch ar y cam yma yn destun balchder i mi ac yn gymorth i alluogi’r disgyblion i gyrraedd eu llawn botensial.

Dywedodd Esgob Wrecsam, y  Gwir Barchedig Peter M Brignall: ⁠“Rwyf wrth fy modd o glywed y newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r cais i ariannu Ysgol Ein Harglwyddes newydd ym Mangor. Mae'r prosiect cyffrous hwn o gael adeilad ysgol newydd ym Mangor yn bennod newydd yn hanes Addysg Gatholig yn y Ddinas, sydd wedi bodoli ers 145 o flynyddoedd."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.