Dim anafiadau wedi ffrwydrad ar safle cwmni arfau yn Sir Fynwy
17/04/2024
Mae cwmni BAE systems yn dweud na chafodd unrhyw un ei anafu wedi ffrwydrad ar safle eu ffatri arfau yn Sir Fynwy.
Cafodd diffodwyr tan eu galw i'r safle yng Nglasgoed ychydig cyn 11.00 fore Mercher.
Dywedodd y cwmni eu bod wedi gweithredu sustemau diogelwch, a nad oedd unrhyw berygl i drigolion lleol. Roedd gwaith cynhyrchu ar y safle, sy'n cyflogi 500 o bobl, wedi parhau fel arfer.
Mae achos y ffrwydrad yn destun ymchwiliad.
Cafodd y safle ger Brynbuga ei ddefnyddio i gynhyrchu arfau rhyfel yn 1940 yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Llun: Google