Newyddion S4C

Chwaraewr Wrecsam 'ddim am ymddiheuro' am gân gwrth-frenhiniaeth

ITV Cymru 17/04/2024
James McClean

Mae un o chwaraewyr Wrecsam wedi dweud na fydd yn “ymddiheuro” ar ôl ymuno â chefnogwyr wrth ganu cân gwrth-frenhiniaeth wedi i'w dîm ennill dyrchafiad.

Roedd y chwaraewr canol cae James McClean wedi ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol i adroddiadau ei fod wedi canu’r gân wrth ddathlu dyrchafiad y Dreigiau i Gynghrair Un.

Ysgrifennodd ar Instagram: "A yw hyn yn gywir? Ydi, yn hollol gywir ac roeddwn i hefyd yn canu ar dop fy llais.

"Ydw i'n ymddiheuro am wneud hynny? Nac ydw o gwbl."

Roedd wedi canu'r gân yn ystod dathliadau ar y Cae Ras ar ôl i Wrecsam ennill dyrchafiad dros y penwythnos gyda buddugoliaeth 6-0 dros Forest Green.

Mae'n golygu bod tîm Phil Parkinson wedi sicrhau dyrchafiadau cefn wrth gefn, ar ôl dychwelyd i'r Gynghrair Bêl-droed y tymor diwethaf.

Mae McClean wedi gwneud 42 ymddangosiad, gan sgorio pedair gôl, ers ymuno â'r clwb o Wigan fis Awst diwethaf.

Mae'r Brenin Charles III a'r Tywysog William wedi ymweld â'r Cae Ras dros y misoedd diwethaf.

Llun gan PA/ ITV.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.