
Caniatâd cynllunio ar gyfer stad o dai i bobl leol yn Y Felinheli
Mae cynllun i adeiladu 23 o dai i bobl leol yn Y Felinheli wedi cael caniatâd cynllunio.
Fe fydd y tai yn cael eu datblygu ar safle ger stad Y Wern yn y Felinheli, ac yn cynnwys 15 o dai, 4 byngalo, a 4 fflat, ac yn ôl asiantaeth dai Adra fe fydd y datblygiad yn gymysgedd o gartrefi rhent cymdeithasol a rhent canolradd.
Bwriad yr asiantaeth yw y bydd y gwaith datblygu yn cychwyn ar y safle yn yr haf.
Dywedodd Huw Evans, Pennaeth Datblygu Adra: “Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yng Ngwynedd a gogledd Cymru, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol.
"Mae Adra wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ei Chynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd y gall pobl leol fod yn falch ohonynt, sy’n effeithlon o ran ynni, o ansawdd uchel ac yn fforddiadwy o ran rhent a chostau gwresogi.”

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd: "Mae angen dybryd am fwy o dai fforddiadwy yng Ngwynedd, a dw i’n croesawu’r newyddion gwych fod Adra wedi derbyn caniatâd cynllunio i symud ymlaen efo’r datblygiad yma yn Y Felinheli.
"Mae hyn yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai ehangach gan y Cyngor sy'n anelu at greu dros 1000 o gartrefi newydd dros y blynyddoedd nesaf."
Y gobaith yw y bydd y cartrefi wedi eu cwblhau erbyn gwanwyn 2026.