Newyddion S4C

'Dim esgus' am gyflwr afonydd y wlad meddai Archesgob Cymru

ITV Cymru 17/04/2024
Andy John Archesgob Cymru

Mae Archesgob Cymru wedi dweud nad oes "dim esgus" am gyflwr afonydd y wlad.

Fe wnaeth Archesgob Cymru, Revd Andrew John, y sylwadau a oedd yn feirniadol o gwmnïoedd dŵr yn ystod cyfarfod yng Nghasnewydd.

Dywedodd wrth aelodau'r Eglwys yng Nghymru fod carthion gwenwynig ac arferion ffermio dwys yn lladd afonydd, gan gyfeirio at y sefyllfa "drasig" yn Nyffryn Gwy.

Yn 2023, fe wnaeth i Natural England  ostwng statws Afon Gwy o "anffafriol, yn gwella" i "anffafriol, yn gostwng".

Roedd dirywiad wedi cael ei weld yn yr asesiad o rywogaethau allweddol oedd wedi cael eu darganfod, megis eog yr Iwerydd a chimwch crafanc wen yr afon.

Eglurodd y Parchg Andrew John mai rôl yr Eglwys fel Cristnogion yw siarad ar faterion tegwch a chyfiawnder.

Dywedodd: “Rhaid i bob un ohonom - gan gynnwys y diwydiant, rheoleiddwyr, llywodraeth ac awdurdodau lleol - chwarae rhan mewn atal y camddefnydd anesgusodol hwn o elfen fwyaf hanfodol bywyd.

"Mae ein hafonydd yn marw. Mae cwmnïoedd dŵr yn pwmpio carthion amrwd i mewn iddyn nhw’n anghyfreithlon.

“A hyd yn oed wrth i adrannau o’n cymunedau ffermio fod yn brin o arian ac yn cael eu tanbrisio, mae arferion ffermio dwys, sy’n cael eu hyrwyddo gan systemau cynhyrchu bwyd anghynaliadwy, yn gwenwyno afonydd.”

'Siom'

Yn y cyfamser mae grŵp ymgyrchu River Action, wedi cymryd achos cyfreithiol yn erbyn Asiantaeth yr Amgylchedd dros lygredd baw ieir.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd wrth ITV Cymru Wales na allen nhw wneud sylw ar yr achos cyfreithiol sydd ar waith.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) lawnsio Cynllun Gweithredu Afon Gwy, gyda'r nod o atal llygredd dŵr a'r dirywiad mewn bywyd gwyllt.

Mae Charles Watson, Sylfaenydd River Action wedi croesawu’r cyhoeddiad ond dywedodd:

“Mae'n destun siom bod Ysgrifennydd Gwladol DEFRA wedi addo cynllun gweithredu i achub Afon Gwy flwyddyn yn ôl i ni, ond yn lle hynny, dim ond ymrwymiad a roddwyd i ni heddiw i ddatblygu Cynllun Dalgylch 5-10 mlynedd.

“Ni allaf ond teimlo ein bod ni wedi bod yma o'r blaen."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.