
Llifogydd sydyn yn achosi trafferthion yn y Gwlff
Llifogydd sydyn yn achosi trafferthion yn y Gwlff
Mae glaw trwm wedi taro rhai gwledydd yn y Gwlff gan achosi llifogydd sydyn ar draws y rhanbarth.
Yn Oman mae o leiaf 18 o bobl wedi cael eu lladd ac eraill dal ar goll.
Ymhlith y meirw mae 10 o ddisgyblion ysgol rhwng 10 a 15 oed.
Fe gofnododd sawl gwladwriaeth bron i werth blwyddyn o law mewn diwrnod.

Cafodd hediadau o Faes Awyr Dubai, sef maes awyr rhyngwladol prysuraf y byd, eu dargyfeirio dros dro ond maent bellach wedi ailgychwyn.
Mae rhanbarth y Gwlff fel arfer yn adnabyddus am dywydd poeth a sych. Ond mae llifogydd wedi digwydd yn fwy rheolaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae rhai yn dweud bod y tywydd eithafol diweddar wedi digwydd yn sgil newid hinsawdd ac y bydd stormydd eithriadol yn digwydd yn fwy cyson yn y dyfodol.