Chwyddiant wedi gostwng i'w lefel isaf ers bron i ddwy flynedd a hanner
Mae cyfradd chwyddiant wedi gostwng i 3.2% ym mis Mawrth.
Mae'r gyfradd wedi gostwng 0.2% o gymharu â'r mis diwethaf.
Yn y misoedd diwethaf mae chwyddiant, sy’n mesur pa mor gyflym y mae prisiau’n codi, wedi bod yn arafu yn y DU.
Fe gyrhaeddodd y lefel uchaf erioed sef 11.1% ddiwedd 2022.
Dyma'r ffigwr isaf o ran chwyddiant ers bron i ddwy flynedd a hanner.
Ond mae'r gyfradd dal yn uwch na tharged Banc Lloegr sef 2%.
Wrth ymateb i'r ffigyrau diweddaraf, dywedodd y Canghellor Jeremy Hunt bod cynllun y llywodraeth i ostwng cyfradd chwyddiant yn gweithio.
“Mae chwyddiant yn gostwng yn gyflymach na’r disgwyl, i lawr o dros 11% i 3.2%, y lefel isaf ers bron i ddwy flynedd a hanner. Mae hyn yn helpu arian pobl i fynd ymhellach," meddai.
Llun: Picasa