Newyddion S4C

Disgwyl sancsiynau pellach ar Iran

17/04/2024
Israel

Mae’r Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn dweud eu bod yn ystyried gosod sancsiynau pellach ar Iran, ar ôl eu hymosodiad ar Israel dros y penwythnos.

Dywedodd Ysgrifennydd Trysorlys yr Unol Daleithiau, Janet Yellen ei bod yn disgwyl gweithredu “yn y dyddiau nesaf".

Mae pennaeth polisi tramor yr UE, Josep Borrell hefyd wedi dweud bod yr UE yn gosod camau yn eu lle i gyflwyno sancsiynau.

Wrth siarad ddydd Mawrth, dywedodd Ms Yellen: “O ran sancsiynau, rwy’n disgwyl y byddwn yn cymryd camau cosbi ychwanegol yn erbyn Iran yn y dyddiau nesaf.

"Yn y trafodaethau rwyf wedi eu cael, yr opsiynau yw ceisio tanseilio'r arian sy'n noddi terfysgaeth Iran."

Mae Israel wedi annog ei chynghreiriaid i gosbi rhaglen taflegrau Tehran.
 

Daeth sancsiynau'r Cenhedloedd Unedig i ben ym mis Hydref.

Fodd bynnag, fe gychwynnodd nifer o wledydd gan gynnwys yr Unol Daleithiau, yr UE a'r DU sancsiynau ychwanegol.

Dywedodd pennaeth staff milwrol Israel, yr is-gapten Herzi Halevi, ddydd Llun y byddai Israel yn ymateb i ymosodiad Iran.

Yn ystod yr ymosodiad uniongyrchol cyntaf erioed gan Iran ar Israel ddydd Sadwrn, cafodd mwy na 300 o daflegrau a dronau eu tanio o Iran, Irac, Syria ac Yemen, gyda’r mwyafrif yn cael eu hatal gan Israel a’i chynghreiriaid.

Dywedodd Tehran fod yr ymosodiad yn weithred o ddial ar ymosodiad o'r awyr y tybir ddaeth gan Israel yn Syria ar 1 Ebrill, pan gafodd 13 o bobl eu lladd.
 

Llun: Gil Cohen-Magen / Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.