Newyddion S4C

Amgueddfeydd i dorri 90 o swyddi ac adeilad Caerdydd dan fygythiad

16/04/2024

Amgueddfeydd i dorri 90 o swyddi ac adeilad Caerdydd dan fygythiad

"That building could close unless we can get money to bring it back to the condition it needs to be.

"We have extraordinarily special objects in that building and we can't continue to house them in a building where the water comes in."

Rhybudd plaen gan Brif Weithredwr Amgueddfa Cymru.

Cyfweliad radio bore ddoe oedd hwn.

Erbyn heddi mae'r corff yn dweud nad oes 'na gynlluniau ar hyn o bryd i gau'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ond mae'r dirywiad i do'r adeilad yn ddifrifol a hynny'n gofyn am wariant ariannol sylweddol.

Dyw'r cyllid ddim yno.

O Sain Ffagan i'r Amgueddfa Wlân i'r Amgueddfa Lechi mae 'na saith safle dan faner Amgueddfa Cymru sydd nawr yn wynebu toriad o £4.5 miliwn ac o leiaf 90 o ddiswyddiadau gwirfoddol.

"Y pryderon sydd gyda ni nawr yw wrth symud ymlaen ar ôl y toriadau yma fwrw gyda'r swyddi 'na wedi mynd dan ddiswyddiadau gwirfoddol bod y Llyfrgell a'r Amgueddfa yn mynd i'w chael hi'n anodd i barhau i gynnal y gwasanaethau fel yn y gorffennol."

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae ganddi £700 miliwn yn llai mewn termau real o gymharu â 2021.

Yn wynebu penderfyniadau anodd felly doedd dim arwydd gan y Prif Weinidog heddi bod 'na gymorth pellach ar y ffordd i'r Amgueddfa.

"We set out that there would be reductions in some areas.

"The Museum is just one of those.

"I don't celebrate having to make those choices but I can't be honest with the people of Wales about having priorities if we aren't prepared to make choices about those."

Roedd hyd yn oed awgrymu y gallai adeilad fel hwn yng nghanol Caerdydd gau yn y dyfodol yn ysgytwad a rhybudd o'r hyn allai fod a chyda sefydliadau diwylliannol ar draws y sector yn wynebu toriadau o 10.5% i'w cyllidebau mae 'na bryder cyffredinol nawr ynglŷn â dyfodol hanes treftadaeth a chof y genedl o'r Amgueddfa Genedlaethol i'r Cyngor Llyfrau ac i'r Llyfrgell Genedlaethol.

"Mae 'na ryw 'chydig dros 20 o'n cydweithwyr yn mynd i adael.

"Rhai wedi a rhai'n mynd i adael dros y misoedd nesaf.

"Mae hynna'n golled enfawr i ni.

"Mae'r Llyfrgell heddiw wedi cadarnhau mai 24 aelod o staff fydd yn gadael o ganlyniad i'r cynllun ymadael yn wirfoddol."

A'r gŵr fu'n bennaeth yno cyn Rhodri Llwyd Morgan yn feirniadol iawn o doriadau'r llywodraeth.

"'Dan ni 'di cael sawl argyfwng ariannol yn y gorffennol.

"Heb os, dyma'r gwaethaf 'dan ni wedi'i hwynebu.

"Sawl gwaith dwi fel Prif Weithredwr wedi gorfod galw fy staff mewn y tu allan i oriau gwaith i arbed y casgliadau rhag gwlychu yn dilyn storm?

"O hyn allan, mae'n bosib bod y bobl yna ddim am fod ar gael.

"Mae'n casgliadau cenedlaethol ni mewn peryg dybryd."

Oes, mae 'na bris ar adrodd stori'r genedl.

Ond nifer o fewn y byd diwylliannol heno yn gofyn a ydy'r Llywodraeth yn gweld gwerth y stori honno yn wyneb heriau ariannol ein hoes?

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.