Jess Davies: Cyfraith atal lluniau ffug ‘yn bositif’
Jess Davies: Cyfraith atal lluniau ffug ‘yn bositif’
Mae creu lluniau o natur rywiol ffug yn defnyddio technoleg deepfake nawr yn drosedd, yn ôl cyfraith newydd yng Nghymru a Lloegr.
Llun ‘deepfake’ yw pan mae wyneb neu gorff unigolyn yn cael eu haddasu’n ddigidol.
Yn aml, maen nhw’n cael eu defnyddio i ecsbloetio pobl gan greu deunydd o natur rywiol heb ganiatâd.
“Mae cael eich targedu yn teimlo fel ymosodiad gan fod caniatâd dros eu cyrff nhw wedi cael ei gymryd oddi wrthyn nhw.”
Dyna ddywedodd Jess Davies, sydd wedi bod yn darged i deepfakes yn cael eu creu ohoni. Mae hi’n ymgyrchu dros hawliau dioddefwyr.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn golygu gall unrhyw un sydd yn creu llun o natur rywiol heb ganiatâd wynebu cofnod troseddol a dirwy. Fe allan nhw hyd yn oed wynebu cyfnod dan glo os yw'r llun yn cael ei rhannu'n eang.
Bydd y gyfraith newydd yn berthnasol hyd yn oed os nad oedd y person wnaeth greu’r llun â’r bwriad o’i rannu’n gyhoeddus.
“'Dw i wedi cyfweld gyda lot o fenywod sydd wedi cael eu targedu. Maen nhw’n teimlo’r effeithiau bob dydd,” meddai Ms Davies.
“Mae’n bositif fod y Llywodraeth wedi gwneud gwahaniaeth, maen nhw wedi gwrando.
“Ond hefyd mae e’n eithaf frustrating i feddwl bod e wedi cymryd blynyddoedd.”
Bydd y drosedd yn rhan o Fil Cyfiawnder Troseddol ac yn ffordd o “anfon neges glir” fod creu’r fath gynnwys yn “anfoesol” a bellach yn torri’r gyfraith, meddai Gweinidog Dioddefwyr a Diogelu y DU, Laura Farris.