Apêl i ddod o hyd i ddyn 'peryglus' wedi gwrthdrawiad angheuol
Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth allai arwain at arestio dyn “peryglus” wedi gwrthdrawiad angheuol ym Merthyr Tudful yn gynharach yn y mis.
Mae’r llu wedi bod yn chwilio am Cameron Jones, 29 oed o Ferthyr Tudful, ers y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar Heol Abertawe yn y dref ar 5 Ebrill am tua 23:45.
Bu farw Demi Leigh Mabbitt, 25 oed, o'i hanafiadau ar 12 Ebrill, wythnos ar ôl y gwrthdrawiad.
Mewn teyrnged iddi ddydd Llun, dywedodd ei thad Paul Mabbitt ei bod yn "ferch, wyres, chwaer, modryb a chyfnither hyfryd".
"Roedd yn enaid clên, ac er nad hi oedd yr hynaf na'r ieuengaf, hi oedd y person oedd yn dal ein teulu gyda'i gilydd, ac fe frwydrodd hi tan y diwedd un."
Dywedodd y Ditectif Ringyll Debbie Hobrough o Heddlu De Cymru: “Rydym wedi bod yn ceisio dod o hyd i Cameron Jones ers y gwrthdrawiad.”
Mae'r Ditectif Ringyll Hobrough hefyd yn annog pobl i beidio siarad â Mr Jones, gan ei ddisgrifio fel “unigolyn peryglus.”
Mae dyn lleol 30 oed, a menyw leol 29 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
“Byddwn yn parhau i arestio unrhyw un sy'n cael ei amau o gynorthwyo Cameron Jones wrth iddo osgoi’r heddlu,” meddai’r Ditectif Ringyll Hobrough.
Mae’r llu yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth ynglŷn â lleoliad Cameron Jones i gysylltu ar unwaith gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400110291.