Newyddion S4C

Ymosodiad Arena Manceinion: Mam i ddyn fu farw yn cerdded i Downing Street

17/04/2024
cyfraith martyn.png

Fe fydd mam i ddyn ifanc a fu farw yn Ymosodiad Arena Manceinion yn 2017 yn cerdded o'r lleoliad i Downing Street i fynnu cyflwyno cyfraith newydd. 

Roedd Martyn Hett, 29, ymysg y 22 o bobl a gafodd eu lladd ar ddiwedd cyngerdd Ariana Grande yn y ddinas yn 2017.

Byddai Cyfraith Martyn yn gofyn i leoliadau ac awdurdodau lleol yn y DU i gael cynlluniau atal terfysgaeth mewn mannau cyhoeddus. 

Mae mam Mr Hett, Figen Murray, wedi bod yn ymgyrchu i gyflwyno'r gyfraith ers blynyddoedd. 

Ar 7 Mai, bydd Ms Murray yn cerdded o'r man lle bu farw ei mab i Downing Street, gan gyrraedd ar 22 Mai.

Bydd ei gŵr ac aelodau eraill o'r teulu yn ymuno yn ogystal â goroeswyr ymosodiadau terfysgol eraill yn y DU. 

Dywedodd Ms Murray fod ei byd "wedi newid yn gyfan gwbl" pan gafodd ei mab ei ladd yn yr ymosodiad. 

"Ni ddylai unrhyw riant brofi'r boen a'r golled dwi wedi ei deimlo, a dwi wir yn credu bod gennym ni gyfle i wneud mannau cyhoeddus yn fwy diogel drwy gyflwyno Cyfraith Martyn," meddai.

"Mae eleni yn nodi'r seithfed flwyddyn ers Ymosodiad Arena Manceinion ac yn hytrach na threulio amser adref gyda fy nheulu yn dathlu bywyd Martyn, byddaf yn cerdded o Arena Manchester i 10 Downing Street i gyflwyno llythyr i'r Prif Weinidog."

Fe gafodd drafft o'r gyfraith newydd ei feirniadu y llynedd gan Bwyllgor Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin.

Rhybuddiodd y pwyllgor y byddai'r drafft Bil Terfysgaeth yn rhoi dyfodol busnesau a sefydliadau bychain yn y fantol.

Dywedodd ASau y byddai'r drafft, sydd â safonau gwahanol ar sail capasiti'r lleoliad, yn ei gwneud yn ofynnol i neuadd bentref leol fod â chanllawiau diogelwch penodol, tra na fyddai marchnad awyr agored yng nghanol dinas yn gorfod gwneud hynny. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.