Cynnau'r fflam Olympaidd i nodi 100 diwrnod nes cychwyn Gemau 2024
Mae disgwyl i'r fflam Olympaidd gael ei chynnau yn ddiweddarach dydd Mawrth er mwyn nodi 100 diwrnod nes cychwyn y Gemau Olympaidd.
Paris sydd yn cynnal y gemau y tro yma ac fe fydd y fflam yn teithio 5,000km trwy Groeg cyn cyrraedd Ffrainc.
Mae Groeg wedi ei ddewis am mai dyma le y dechreuodd y gemau.
Mewn seremoni yn Olympia bydd y nofiwr Laure Manaudou, sydd wedi ennill tair medal, yn derbyn y fflam gan y rhwyfwr Stefanos Douskos. Fe gipiodd Douskos y fedal aur i Groeg yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo yn 2020.
Mae disgwyl i'r fflam deithio 5,000km mewn 11 diwrnod ar draws Groeg a bydd seremoni Ebrill 26 ble y bydd yn cael ei phasio i Ffrainc.
Bydd yn cyrraedd Marseille gyntaf ar 8 o Fai ac yna yn mynd i 65 o diriogaethau gwahanol gan gynnwys chwe rhanbarth dros y dŵr.
Bydd tua 10,000 o bobl yn cario'r fflam yn Ffrainc, rhai yn sêr sydd wedi llwyddo yn eu maes, eraill yn bobl gyda straeon personol anhygoel.
Yn ôl y trefnwyr mae hyn yn gyfle i "ddathlu" ac mae cyfle i bawb gymryd rhan.
Dywedodd Tony Estanguet, Arlywydd Paris 2024: "Cant o ddiwrnodau tan y bydd y Gemau yn dechrau a da ni yn agosáu at y llinell derfyn!
"Mae dechrau ras gyfnewid y fflam yn Groeg yn dod a ni gam yn nes at yr adeg pan fydd y fflam yn cyrraedd Marseille.
"Bydd hon yn foment hanesyddol a thrawiadol. Dwi'n gwahodd pobl Ffrainc o bob man yn y wlad i gyd i gymryd rhan pan mae'r dorch yn pasio yn agos atynt ac i fwynhau'r profiad unwaith mewn bywyd yma!"
Llun: Aris Messinis / Wochit