Trafod un o'r deddfau mwyaf llym yn y byd i reoli tybaco
Bydd Aelodau Seneddol yn trafod cynlluniau allai olygu un o'r deddfau tybaco mwyaf llym trwy'r byd ddydd Mawrth.
Mae Rishi Sunak eisiau atal pobl ifanc fyddai yn troi'n 15 oed eleni rhag gallu prynu sigaréts.
Byddai'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud hi'n anghyfreithlon gwerthu cynnyrch tybaco yn hytrach na'r weithred ei hun o ysmygu.
Ond mae nifer o ASau San Steffan wedi dweud na fyddan nhw'n cefnogi'r mesur.
Mae tybaco yn lladd 80,000 o bobl y flwyddyn ac yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd fe fyddai'r mesur newydd yn achub miloedd o fywydau ac yn "lleihau'r straen" ar y gwasanaeth iechyd.
"Mae gormod ohonom ni yn nabod rhywun sydd wedi marw neu ei bywyd wedi ei newid yn llwyr o achos ysmygu. Er y cynnydd sylweddol sydd wedi bod mae'n parhau i fod yr afiechyd hawsaf i'w osgoi sydd yn lladd y mwyaf ohonom ym Mhrydain.
"Y gwir amdani yw does dim lefel saff o dybaco. Mae'n niweidiol a dyna pam rydyn ni yn gweithredu heddiw er mwyn arbed y genhedlaeth nesaf," meddai Victoria Atkins.
O dan y cynlluniau byddai swyddogion safonau masnach yn cael pwerau newydd i roi dirwy o £100 i siopau fyddai yn gwerthu sigaréts neu fêps i blant.
Byddai cyfyngiadau hefyd ar flasau a gwerthiant fêps i'w gwneud yn llai atyniadol i blant.
Mae'r blaid Lafur wedi dweud ei bod yn cefnogi'r mesur sy'n golygu ei bod hi bron yn bendant y bydd yn dod i rym. Ond mae ASau Ceidwadol yn cael pleidlais rydd ar y mater.
Mae rhai gwleidyddion Ceidwadol yn dweud nad ydynt yn cefnogi'r mesur am nad ydynt yn teimlo bod modd ei weithredu ac mae disgwyl i eraill geisio newid y ddeddfwriaeth yn ystod y broses. Yn ôl y cyn brif weinidog, Boris Johnson mae'n "hurt" ac mae Liz Truss wedi rhybuddio yn erbyn dweud wrth bobl beth i'w wneud.
Ond mae elusennau a mudiadau iechyd yn annog ASau i gefnogi'r ddeddfwriaeth.