Newyddion S4C

Hanner o reithwyr achos llys Trump yn cael eu diystyru

16/04/2024
Donald Trump

Mae dros hanner o bobl oedd yn bresennol mewn achos llys troseddol y cyn-arlywydd Donald Trump wedi cael eu diystyru fel aelodau o'r rheithgor ar y sail nad ydynt yn gallu bod yn ddiduedd. 

Dywedodd 60 o’r 96 o reithwyr posib na fyddan nhw’n medru aros yn ddiduedd yn ystod yr achos llys troseddol yn erbyn Mr Trump yn Efrog Newydd ddydd Mawrth. 

Cafodd y rheiny ar ôl eu holi’n bellach am eu harferion, gan gynnwys am eu harferion darllen llyfrau a’r newyddion. 

Roedd rhaid iddyn nhw ateb 42 o gwestiynau fel rhan o holiadur.

Mae’r cyn-arlywydd Donald Trump yn gwadu’r 34 o gyhuddiadau yn ei erbyn yn yr achos llys.

Yr achos llys

Mae’r achos yn ymwneud ag arian y mae erlynwyr yn honni y talodd y cyn-arlywydd i’r actores ffilmiau pornograffig, Stormy Daniels, cyn etholiad arlywyddol 2016.

Maen nhw'n honni bod y taliadau wedi eu cofnodi ar gam fel treuliau cyfreithiol a hynny er mwyn celu tystiolaeth a allai fod wedi gwneud niwed gwleidyddol i’w ymgyrch arlywyddol gyntaf.

Honnir bod Trump wedi gwneud y taliadau hyn drwy'r cyfreithiwr Michael Cohen. 

Y dystiolaeth allweddol yw taliad o $130,000 a wnaed i Stormy Daniels, a oedd yn barod i nodi yn gyhoeddus iddi gael rhyw â Trump yn 2006, flwyddyn ar ôl iddo briodi Melania Trump.

Nid yw’r taliadau eu hunain yn anghyfreithlon ond mae Trump wedi’i gyhuddo o dorri cyfreithiau ar gyllido ymgyrch wleidyddol ffederal.

Fe wnaeth hynny, meddai’r erlynwyr, drwy fethu â datgelu arian a ddefnyddiodd er mwyn hybu ei gyfleoedd etholiadol, gan eu cofnodi yn lle hynny fel “treuliau cyfreithiol”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.