Cabinet rhyfel Israel yn trafod eu hymateb i ymosodiad Iran
Mae cabinet rhyfel Israel wedi dod at ei gilydd er mwyn trafod eu hymateb i ymosodiad gan Iran ar y wlad nos Sadwrn.
Dyw arweinwyr Israel ddim wedi cyhoeddi unrhyw benderfyniadau ynglŷn ag ymateb y wlad hyd yma.
Ond mae pennaeth staff milwrol Israel, yr Is-gadfridog Herzi Halevi, wedi dweud y bydd y wlad yn bendant yn ymateb.
Wnaeth e ddim nodi ym mha fodd na chwaith unrhyw gynlluniau o ran amserlen.
Fe ddaw wrth i gynghreiriaid Israel, gan gynnwys y Prif Weinidog Rishi Sunak, annog llywodraeth Benjamin Netanyahu i ymatal rhag ymateb, “o leiaf am y tro.”
Daw’r galwadau wedi i Luoedd Amddiffyn Israel (IDF) gadarnhau fod dros 300 o dronau a thaflegrau a lansiwyd gan Iran wedi eu hatal gan eu system amddiffyn y Llen Haearn (Iron Dome) nos Sadwrn.
Doedd yna ddim adroddiadau o farwolaethau, na chwaith llawer o ddifrod, meddai awdurdodau Israel.
Roedd yr ymosodiad gan Iran yn nodi’r tro cyntaf i’r wlad Islamaidd dargedu Israel yn uniongyrchol o’i thiriogaeth ei hun. Roedd yn weithred o ddial meddai Iran am ymosodiad blaenorol gan Israel pan gafodd arweinydd milwrol o Iran ei ladd yn Damascus.
Llun: Jsck Guez/Wochit