Yr Ysgrifennydd Amaeth newydd yn ffyddiog bod modd datrys 'materion cymhleth' y cynllun ffermio
Yr Ysgrifennydd Amaeth newydd yn ffyddiog bod modd datrys 'materion cymhleth' y cynllun ffermio
Mae Ysgrifennydd Amaeth newydd Cymru wedi dweud y bydd yn cadw at yr amserlen i newid y ffordd y mae ffermwyr yn cael eu harian o'r flwyddyn nesa ymlaen.
Yn ei gyfweliad cyntaf ers cael ei benodi fis Mawrth, mae Huw Irranca-Davies yn mynnu y gall y "materion cymhleth" sy'n achosi dadlau dros y cynllun cymhorthdal newydd gael eu datrys.
Yn olynu Lesley Griffiths a fu yn y rôl am saith mlynedd, cafodd Mr Irranca-Davies ei benodi gan y Prif Weinidog newydd Vaughan Gething fel Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd ei fod wrthi'n ceisio deall mwy am bryderon ffermwyr am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
"Rhaid gwrando"
"Fel gweinidog fy hun, mae’n rhaid ni gwrando ar ffermwyr dros Cymru. Rhaid i ni weithio gyda ffermwyr hefyd i godi‘r heriau llawer o heriau ond llawer o cyfleoedd hefyd.
"Felly y dwy wythnos diwethaf rydw i wedi bod yn teithio dros Cymru yn siarad ac yn cael llawer o sgyrsiau gyda ffermwyr.
"Ac rydw i’n dysgu ond rydw i’n gwrando, ond mae pob un ohonon ni ac maen rhaid i bob un ohonon ni gweithio gyda’n gilydd nawr i codi’r heriau, heriau enfawr ymlaen."
Mae'r cynllun cymhorthdal newydd wedi arwain at brotestiadau ar hyd a lled Cymru, gyda rhai miloedd yn ymgynnull y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd ddiwedd Chwefror.
TB mewn gwartheg, rheoliadau i atal llygredd mewn afonydd a'r newidiadau i gymhorthdaliadau ar ôl Brexit yw asgwrn y gynnen. Mae hynny'n cynnwys yr angen i ffermwyr sicrhau bod coed ar 10% o dir fferm yn y dyfodol cyn gallu hawlio cymhorthdal.
"Y rhan nesaf o'r broses fydd symud ymlaen gyda'r holl gyfranddalwyr yng Nghymru i ddweud lle ydym ni'n derbyn y mae yna gytundebau a lle mae yna ffyrdd y medrwn ni symud ymlaen yn greadigol i wireddu yr un amcanion," meddai Huw Irranca-Davies.
"Dydyn ni ddim yn bwriadu gohirio, mae yna bethau y medrwn ni barhau â nhw gyda'r gymuned ffermio. Y peth gwaethaf y byddem ni'n gallu ei wneud fyddai gohirio. Rydym ni angen sicrwydd i ffermwyr a symud ymlaen gyda'r holl amcanion.
Awgrymodd hefyd na fyddai'n cefnogi cynllun difa moch daear gan ddadlau bod Cymru'n delio â TB mewn ffordd wahanol.
O ran y rheoliadau i atal llygredd amaethyddol mewn afonydd - dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi'u haddasu'n barod a bod yn rhaid gweithredu er mwyn sicrhau gwell ansawdd dŵr mewn afonydd.