Pa heriau fydd yn wynebu Wrecsam yn Adran Un?
Roedd dathlu mawr yn Wrecsam dros y penwythnos wedi i'r clwb sicrhau dyrchafiad i Adran Un.
Dyma'r tro cyntaf y bydd y clwb yn chwarae yn y gynghrair ers 2005.
Yn dilyn dau ddyrchafiad yn olynol bydd chwarae yn Adran Un yn gam mawr i'r clwb yn y gogledd, ond beth yn union yw'r heriau sy'n eu hwynebu?
Mae gan Adran Un nifer o dimau sydd wedi sefydlu eu lle yn y gynghrair, a bydd tri thîm o'r Bencampwriaeth yn disgyn i'r gynghrair hefyd.
Mae Rotherham eisoes wedi disgyn i Adran Un, ac maen nhw wedi ennill dyrchafiad nôl i'r Bencampwriaeth ar dri achlysur ers 2018.
Pe bai Sheffield Wednesday yn disgyn, bydd ganddyn nhw un o'r torfeydd mwyaf yn y gynghrair. Mae tua 26,000 o gefnogwyr ym mynychu eu gemau cartref.
Mae timau fel Bolton Wanderers, Derby County a Charlton gyda thorfeydd yn eu degau ar filoedd yn ogystal, a fydd yn wahanol i dorfeydd arferol y timau yn Adran Dau.
Wrecsam oedd un o dri thîm yn unig gyda dros 10,000 o gefnogwyr ar gyfartaledd yn Adran Dau y tymor hwn.
Fydd gan Wrecsam ddim mantais fawr o ran eu cyllideb y tymor nesaf chwaith, cyllideb sydd wedi denu chwaraewyr o gynghreiriau uwch dros y ddau dymor diwethaf.
Mae'r chwaraewyr dylanwadol fel Paul Mullin, Ben Tozer ac Elliot Lee oll wedi arwyddo i Wrecsam o glybiau yn Adran Un neu Adran Dau.
Yn fwy diweddar mae James McClean a Steven Fletcher, sydd wedi chwarae i nifer o dimau yn yr Uwch Gynghrair, a Will Boyle oedd yn chwarae i Huddersfield yn y Bencampwriaeth wedi helpu'r clwb i sicrhau dyrchafiad.
Ond y tymor nesaf fe fydd nifer o dimau Adran Un gyda chwaraewyr sydd hefyd wedi chwarae yn y cynghreiriau yma, ac fe fydd gan glybiau eraill gyllidebau tebyg i'r Dreigiau.
Llun: CPD Wrecsam