'Mwy o waith' nag arfer i'r Llewod ar eu taith

'Mwy o waith' nag arfer i'r Llewod ar eu taith
Mae'r Llewod yn wynebu mwy o waith nag arfer ar eu taith eleni, yn ôl cyn-asgellwr Cymru, Shane Williams.
Bydd y tîm yn herio Japan ddydd Sadwrn i baratoi ar gyfer eu taith i Dde Affrica.
"Bydd y bois gyda'i gilydd lot achos mae nhw gyd mewn bwbwl yn y carfan," dywedodd Williams.
"Falle mae lot yn fwy o gwaith i neud ar y taith hyn achos bydd y bechgyn gyda'i gilydd trwy'r amser."
Alun Wyn Jones sydd wedi ei goroni'n gapten ar y Llewod, ac mae Williams yn ffyddiog yn ei allu i arwain y tîm.
"Alun yw Alun ti'mod, mae'n rhoi yr un ymdrech mewn pob tro. Mae lot o profiad 'da fe, mae wedi bod ar sawl taith, mae 'di bod capten a mae'n gwybod fel i ennill.
"Fel Cymro ni'n gwybod beth mae Alun yn mynd i wneud, rhoi 100% mewn i popeth, 100 milltir yr awr mewn i'r tacl gyntaf 'na, a bydd e'n neud e reit i diwedd y taith."
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans