Newyddion S4C

Heddlu’n rhyddhau enw’r dyn laddodd chwech o bobl yn Sydney

14/04/2024

Heddlu’n rhyddhau enw’r dyn laddodd chwech o bobl yn Sydney

Mae’r heddlu yn Awstralia wedi cyhoeddi enw’r dyn a laddodd chwech o bobl mewn canolfan siopa yn Sydney ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu New South Wales taw Joel Cauchi, 40 oed, o dalaith Queensland oedd yn gyfrifol am drywanu’n farw chwech o bobl.

Bu farw pump menyw ac un dyn yn yr ymosodiad.

Mae 12 o bobl yn dal yn yr ysbyty, rhai mewn cyflwr difrifol gan gynnwys babi naw mis oed yn dilyn yr ymosodiad.

Dywedodd yr heddlu fod yr ymosodiad yn “gysylltiedig gydag iechyd meddwl” Mr Cauchi.

Ychwanegodd yr heddlu ei fod wedi targedi menywod yn “llinell ymholi amlwg”.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu New South Wales Karen Webb na fyddai’n disgrifio’r ymosodiad fel “gweithred terfysgol” ac nad oedd “cymhelliad ideolegol”.

Roedd Mr Cauchi yn hysbys i’r heddlu ond ni chafodd ei arestio na’i gyhuddo yn nhalaith Queensland. 

Roedd wedi bod yn byw bywyd teithiol am rai blynyddoedd a chafodd ddiagnosis o salwch meddwl pan yn 17 oed, meddai’r heddlu.

Roedd ganddo uned storio yn Sydney ond dywedodd yr heddlu nad oedd unrhyw beth yno fyddai’n rhoi gwybodaeth am unrhyw gymhelliad.

Mae’r heddlu yn dal i roi gwybod i deuluoedd y rhai fu farw ond nad oedd gan ddau ohonyn nhw berthnasau yn Awstralia.

Mae teulu Ashlee Good wedi cyhoeddi ei bod hi ymhlith y rhai fu farw a hi oedd mam y babi gafodd ei anafu. Dywedodd llygaid dystion ei bod hi wedi rhoi’r babi i bobl gerllaw ar ôl iddi gael ei thrywanu.

Dywedodd teulu Mr Cauchi fod ei weithrediadau’n “erchyll” gan ddweud ei fod wedi bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl “ers iddo fod yn llanc”.

Mewn datganiad a rhyddhawyd gan Heddlu Queensland, dywedodd y teulu: “Rydym wedi ein llorio gan y digwyddiadau trawmatig ddigwyddodd yn Sydney.

"Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda theuluoedd a ffrindiau'r dioddefwyr a’r rhai sy’n cael triniaeth ar hyn o bryd.

"Roedd gweithrediadau Joel yn hollol erchyll ac rydym yn dal i geisio amgyffred yr hyn sydd wedi digwydd."

Fe ychwanegodd y teulu eu bod nhw mewn cyswllt gyda’r heddlu ac nid oedd ganddyn nhw unrhyw “faterion’ gyda’r heddwas wnaeth saethu Mr Cauchi.

“Roedd hi’n gwneud ei gwaith i amddiffyn eraill ac rydym yn gobeithio ei bod hi’n ymdopi’n iawn,” meddent.

Llun: Sydney Morning Herald/Facebook

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.