'Peidiwch': Joe Biden yn rhybuddio Iran yn erbyn ymosod ar Israel
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden wedi rhybuddio Iran i beidio ag ymosod ar Israel.
Dywedodd Mr Biden ei fod yn disgwyl Iran i ymosod ar Israel “yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach” wrth i bryderon gynyddu fod Iran yn paratoi i ymateb i ymosodiad ar lysgenhadaeth y wlad yn Syria yn gynharach yn y mis.
Nid yw Israel wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad wnaeth ladd uwch swyddogion byddin Iran ond y gred ydy taw Israel oedd yn gyfrifol.
Mae Israel wedi dweud eu bod nhw’n barod i amddiffyn eu hunain.
Dywedodd Mr Biden wrth Iran: “Peidiwch”.
Ychwanegodd Mr Biden: “Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn Israel. Byddwn yn cefnogi Israel. Byddwn yn helpu i amddiffyn Israel ac ni fydd Iran yn llwyddo.”
Mae Iran yn cefnogi Hamas sy’n brwydro Israel yn Gaza yn ogystal â grwpiau eraill megis Hezbollah yn Libanus sy’n cynnal ymosodiadau cyson ar Israel.
Llun: Wochit