Teyrngedau i'r dylunydd ffasiwn Roberto Cavalli
Mae teyrngedau wedi’i rhoi i’r dylunydd ffasiwn Eidalaidd, Roberto Cavalli, wedi iddo farw yn 83 oed.
Fe ddaeth cyhoeddiad am ei farwolaeth ar gyfrif Instagram ei frand nos Wener, a’r cyfarwyddwr creadigol y tŷ ffasiwn, Fausto Puglisi, wedi dweud mai “anrhydedd fwyaf” ei fywyd oedd cydweithio a Mr Cavalli.
Ymysg yr enwogion eraill sydd wedi rhoi teyrnged iddo, mae’r model o Frasil, Adriana Lima, a hithau wedi disgrifio’r dylunydd yn arwr.
Dywedodd yr oedd wedi ymrwymo i’w arddull ac yn ffyddlon o ran ei ysbryd. “Gorweddwch mewn heddwch,” meddai.
Mae’r dylunydd ffasiwn Eidalaidd Giorgio Armani hefyd wedi rhoi teyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel “artist gwirioneddol.”
Llun: Ed Kavishe/Wikipedia