Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Rhaid i Gymru 'gredu' yn eu hunain wrth herio'r Gwyddelod

13/04/2024
Cymru v Lloegr 6G Menywod 2024

Mae Ioan Cunningham yn galw ar ei dîm i ‘gredu’ wrth iddyn nhw herio Iwerddon yn Corc yn y Chwe Gwlad brynhawn ddydd Sadwrn.

Yn dilyn colli pum gêm yn olynol sydd wedi arwain at gwymp i’r wythfed safle yn rhestr detholion y byd, mae Cymru yn gobeithio hawlio eu buddugoliaeth gyntaf o’r bencampwriaeth yn erbyn y Gwyddelod.

Mae’r Prif Hyfforddwr Cunningham wedi gwneud pedwar newid i’r tîm a gollodd yn erbyn Lloegr bythefnos yn ôl, gyda’r asgellwr Jasmine Joyce, y prop Sisilia Tuipulotu, y mewnwr Keira Bevan a’r blaenasgellwr Alishia Joyce-Butchers yn dychwelyd i’r tîm.

Dywedodd Cunningham: “Rhaid i ni gredu y gallwn ni fynd draw a chyflawni’r dasg.

“Mae ganddyn nhw hyder yn eu carfan ar hyn o bryd, mae yna deimlad da gyda nhw a bwrlwm o gwmpas yr hyn maen nhw'n ei wneud.

“Mae’n mynd i fod yn awyrgylch heriol yn Corc, mewn stadiwm ble mae cefnogwyr yn agos at y cae. Bydd yn wahanol iawn i Ashton Gate, lle buom yn chwarae yn erbyn Lloegr.

“Mae 'na siawns am newid eithaf enfawr yn y bencampwriaeth penwythnos yma.

“Mae Lloegr yn chwarae’r Alban, Ffrainc yn wynebu’r Eidal, ac felly fe allai’r swing yn y tabl ddigwydd os ydyn ni’n cael ein rhan ni o’r gêm yn iawn.”

Dwywaith yn unig mewn 17 mlynedd o Chwe Gwlad y Menywod mae Cymru wedi llwyddo i ennill ar yr Ynys Werdd.

Ond Cymru sydd wedi bod yn fuddugol y ddau dro diwethaf, gan gynnwys canlyniad 31-5 ym Mharc yr Arfau yn Chwe Gwlad y llynedd.

Tîm Cymru yn erbyn Iwerddon:

Jenny Hesketh, Jasmine Joyce, Hannah Jones (Capten), Kerin Lake, Carys Cox, Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Abbie Fleming, Georgia Evans, Alisha Butchers, Alex Callender (Is-gapten), Bethan Lewis.

Eilyddion: Molly Reardon, Abbey Constable, Donna Rose, Natalia John, Gwennan Hopkins, Sian Jones, Kayleigh Powell, Courtney Keight.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.