Caerdydd: CCTV yn dangos car yn taro merch 5 oed cyn gyrru i ffwrdd
Caerdydd: CCTV yn dangos car yn taro merch 5 oed cyn gyrru i ffwrdd
Mae lluniau camera cylch cyfyng wedi dal y foment gafodd merch pump oed ei tharo gan gar yng Nghaerdydd, cyn i yrrwr y cerbyd gyrru i ffwrdd.
Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad wedi’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar Ffordd Sloper am oddeutu 17.50 ar 24 Mawrth.
Mae’r deunydd fideo yn dangos y ferch ifanc yn defnyddio ei sgwter ar y palmant wrth ochr y ffordd, a hynny tra oedd hi ar ei ffordd adref o’r parc gyda’i mam a’i brawd.
Mae car BMW lliw llwyd yn goddiweddyd cerbyd arall sy’n disgwyl ar gyffordd Langham Way a Ffordd Sloper.
Wrth yrru heibio’r cerbyd, mae’r car yn gyrru ar y palmant gan daro’r ferch, cyn gyrru i ffwrdd.
Fe gafodd y ferch mân anafiadau, meddai’r llu.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: “Mae’n rhyfeddol mai dim ond mân anafiadau cafodd y ferch fach.
“Ond roedd y digwyddiad, yn ddealladwy, yn frawychus iawn iddi hi a'i theulu.”
Mae’r heddlu yn apelio ar yrrwr y cerbyd, neu unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth i gysylltu ar unwaith gan ddefnyddio’r cyfeirnod 2400097157.
Lluniau: PA/Heddlu De Cymru