Newyddion S4C

Pêl-droed: Beth sydd ei angen ar Wrecsam i ennill dyrchafiad i Adran Un?

13/04/2024

Pêl-droed: Beth sydd ei angen ar Wrecsam i ennill dyrchafiad i Adran Un?

Fe all Wrecsam sicrhau dyrchafiad i Adran Un ddydd Sadwrn os ydynt yn ennill yn erbyn Forest Green Rovers ac mae canlyniadau eraill yn mynd o'u plaid nhw.

Mae'r Dreigiau yn yr ail safle yn Adran Dau ar hyn o bryd, gyda 79 pwynt.

Mae nhw'n croesawu Forest Green Rovers, y tîm sydd ar waelod y tabl, i’r Cae Ras brynhawn ddydd Sadwrn am 15.00.

Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd rheolwr y clwb, Phil Parkinson bod ei ffocws ar y tair gêm sydd yn weddill yn unig.

"Ar hyn o bryd, i mi fy hun, mae'r ffocws ar yr ychydig gemau olaf yn unig a dydw i ddim yn gadael i'm meddwl llithro i unrhyw beth arall. Mae angen i ni roi ein holl egni i mewn i'n paratoadau.

“Pe baen ni’n gallu mynd dros y llinell a chael dyrchafiad, mae gennym ni amser hir i gynllunio ac adeiladu’r garfan yn gryf ar gyfer y flwyddyn nesaf, pa bynnag adran rydyn ni ynddi.”

Beth sydd angen ar Wrecsam i ennill dyrchafiad dydd Sadwrn?

Yn gyntaf, bydd rhaid i’r Dreigiau drechu Forest Green. Byddai hynny yn cynyddu eu cyfanswm pwyntiau i 82 pwynt.

Yn yr achos hynny, yr unig ddau dîm yn safleoedd y gemau ail chwarae all fynd yn gyfartal neu wella 82 pwynt byddai MK Dons a Barrow – a hynny os yw’r ddau dîm yn ennill pob gêm sydd ganddyn nhw yn weddill

Felly os nad yw MK Dons yn curo Mansfield Town, ac os nad yw Barrow yn gallu ennill oddi cartref yn Gillingham – byddai triphwynt i Wrecsam yn ddigon i selio dyrchafiad.

Os nad yw MK Dons yn ennill, hyd yn oed os yw Barrow yn fuddugol – byddai buddugoliaeth i Wrecsam fwy neu lai yn cadarnhau eu lle yn y tri safle uchaf, gan fod eu gwahaniaeth goliau (+27) yn bymtheg gôl yn well na chyfanswm Barrow (+12).

Os yw Wrecsam yn cael gêm gyfartal, byddai hynny yn eu gadael ar 80 pwynt. Felly petai’r Dons a Barrow yn colli – dim ond MK Dons fyddai’n gallu unioni’r cyfanswm hwnnw, ond mae eu gwahaniaeth goliau nhw (+16) hefyd llawer iawn yn salach – felly byddai hynny yn gadael Paul Mullin ag un droed yn yr Ail Adran.

Colli ddydd Sadwrn, a byddai’n rhaid disgwyl tan benwythnos nesaf, pan fydd Wrecsam yn teithio i herio Crewe Alexandra, sydd yn y pumed safle.

Felly fe fydd selogion y Cae Ras yn siŵr o gadw un llygad ar ddigwyddiadau ym Milton Keynes a Gillingham brynhawn dydd Sadwrn.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.