Newyddion S4C

Darts Cymru: Dathlu pum mlynedd o greu cynnwys ar 'gyfnod euraidd' dartiau yng Nghymru

14/04/2024

Darts Cymru: Dathlu pum mlynedd o greu cynnwys ar 'gyfnod euraidd' dartiau yng Nghymru

Mae Dylan Williams, crëwr Darts Cymru yn dathlu pum mlynedd o greu cynnwys yn ystod 'cyfnod euraidd' dartiau yng Nghymru.

Ers 2019 mae Dylan Williams wedi bod yn postio cynnwys am bopeth sy’n ymwneud â dartiau yng Nghymru ar ei gyfrifon cymdeithasol, Darts Cymru.

O bostio am ganlyniadau chwaraewyr Cymru i gemau dartiau hyd a lled Cymru, mae'r dyn o'r Barri yn darparu'r holl wybodaeth sydd angen ar unrhyw gefnogwr dartiau yn y wlad.

Ac fe ddechreuodd y cwbl  oherwydd buddugoliaeth gan y chwaraewr dartiau o Bontyberem, Jonny Clayton.

"O'n i'n gwylio Jonny Clayton yn 'whare mewn Pencampwriaeth y Chwaraewyr, a o'dd e ar fin ennill cystadleuaeth," meddai wrth Newyddion S4C.

"A o'n i'n 'whare meddyliau yn meddwl 'pe bai e'n ennill y gystadleuaeth 'ma heddi faint o bobl yng Nghymru sy'n mynd i wybod bod e wedi bod yn llwyddiannus?'

"A bues i palu'n meddylie am gwpl o funudau a o'n i'n meddwl 'ti'n gwybod beth, ma rhaid i rywun dechrau rhyw fath o gyfrif ble mae cefnogwyr yn gallu gwybod am y llwyddiant 'ma.'

"Felly es i ati y prynhawn 'ny i greu cyfrif Twitter a daeth hi'n amlwg yn sydyn iawn ti'n gwybod, bod 'na alw am y fath newyddion."

Image
Dylan Williams
Buddugoliaeth Jonny Clayton ym mis Ebrill 2019 oedd y sbardun i Dylan Williams o'r Barri i greu cyfrif Darts Cymru.


Yn sydyn iawn wedi iddo bostio am fuddugoliaeth Clayton, roedd ymateb cadarnhaol i'r cyfrif a Dylan methu credu'r nifer oedd yn gadael sylwadau.

"Aeth pethe'n eitha mawr yn sydyn ti'n gwybod?

"Rhywbeth o'n i ddim y disgwyl achos, o'n i'n amlwg yn gwybod bod fi'n, adrodd ar rywbeth eitha' cul o ran camp fel dartiau.

"Hyd yn oed fwy cul yn sôn ambwyti camp fel dartiau yng Nghymru, felly yn gloi iawn, daeth e'n amlwg bod 'na gynulleidfa mas 'na oedd yn dibynnu ar y newyddion o'n i'n adrodd."

'Cyfnod euraidd'

Mae dartiau yng Nghymru wedi mynd o nerth i nerth ers i Dylan greu’r cyfrif.

Rhyngddynt mae Gerwyn Price a Jonny Clayton wedi ennill 11 prif gystadleuaeth y PDC a dros 50 teitl PDC, gan gynnwys Gerwyn Price yn ennill Pencampwriaeth Dartiau'r Byd yn 2021.

Ynghyd â hynny mae Price a Clayton wedi ennill Cwpan Dartiau'r Byd dros Gymru ar ddau achlysur, y 2020 a 2023.

"Mae sawl un wedi gweud wrtha i 'oedd 'da ti ryw fath o crystal ball?' i ddechrau'r cyfrif 'ma. A fi'n credu ers i fi ddechrau 'y'n ni 'di bod mewn cyfnod euraidd, bydden i'n dweud, i'r gêm yng Nghymru.

"Gerwyn (Price) a Jonny (Clayton), y ddau o nhw yn yr chwech ucha' yn y byd ar un adeg. 

Image
Jonny Clayton a Gerwyn Price
Jonny Clatyon (chwith) a Gerwyn Price (dde) yn dathlu ennill Cwpan y Byd yn Frankfurt y llynedd. Llun: Wochit / Jürgen Kessler

"Ar gyfer y cyfrif, ti'n gwybod mae 'di bod yn wych i fi i godi proffil y cyfrif ond hefyd i godi proffil ni fel gwlad. Achos ti'n gwybod, sai'n gallu meddwl am unrhyw gyfrif arall ar Twitter sydd yn tynnu sylw at gwlad, un gwlad o ran dartiau. 

"Felly, o ran y chwaraewyr, o ran y wlad, mae popeth yn mynd yn y cyfeiriad cywir."

'Cynulleidfa newydd'

Ers Pencampwriaeth Dartiau'r Byd ym mis Rhagfyr mae'r diddordeb mewn dartiau wedi tyfu'n sylweddol.

Roedd rhediad y llanc Luke Littler i'r rownd derfynol wedi cipio dychymyg y DU a bellach mae nifer yn cadw eu llygaid ar gystadlaethau dartiau ar hyd y flwyddyn.

Yn ôl Dylan Williams, mae hyn wedi helpu tyfu'r gamp.

"Ers i fi ddechrau, mae 'na bethau wedi digwydd o ran statws dartiau Cymru bydden i'n gweud sydd wedi codi proffil y gêm yng Nghymru. 

"Ti'n gwybod, Gerwyn Price yn amlwg yn dod yn bencampwr byd y PDC cynta' yng Nghymru, Gerwyn a Jonny yn ennill Cwpan Dartiau'r Byd dwywaith yn y pedair blynedd diwethaf.

"Felly, ti'n gwybod, ond ni'n gweld proffil y gêm yn codi, mae Luke Littler nawr wedi dod â cynulleidfa cwbl newydd i'r gamp, lot fwy o lygaid ar y gamp.

"Felly, fi dim ond yn gweld pethau yn mynd mewn un cyfeiriad a mae'r gêm yn mynd i gydio mewn mwy o wledydd ar draws y byd 'wi'n teimlo.

Image
Luke Littler
Fe wnaeth Luke Littler gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Dartiau'r Byd a bellach yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair. Llun: PA / Martin Rickett

Yn ogystal, mae Dylan yn meddwl bod stori Littler yn cynnig llwyfan i bobl ifanc allu breuddwydio am fod yn chwaraewyr dartiau proffesiynol.

"Mae plant ifanc yn gweld llwyddiant yn aml ar y teledu, felly i unrhyw grwt neu ferch ifanc yn tyfu lan, mae e nawr yn edrych fel rhywbeth allet ti wneud bywoliaeth gyda.

"Mae Littler yn enghraifft wych o ddangos siwt bod strwythur nawr yn y gamp o’r cystadlaethau ieuenctid lan at y llwyfannau mawr."

Beth nesaf?

Yn dilyn llwyddiant Darts Cymru dros y pum mlynedd diwethaf, mae Dylan wedi bod yn meddwl am y dyfodol.

Felly, beth yw'r camau nesaf i'r cyfrif sydd â 20,000 o ddilynwyr ar draws y cyfryngau cymdeithasol?

"Dros y pum mlynedd diwethaf, fi 'di bod yn, ti'n gwybod postio ambwyti canlyniadau a pethau tebyg, ond fi moyn mynd i fwy o gystadlaethau byw. 

"Ti'n gwybod, y rhai nesa' yw i fynd i Bencampwriaeth y Byd nawr yn Alexandra Palace ym mis Rhagfyr, ond jyst dod â cynnwys gwahanol, cadw e'n ffresh achos, fi 'di mynd o ddim byd i dros 20,000 o ddilynwyr, felly ma' beth fi 'di bod yn neud yn gweithio.

"Ond yn amlwg, yn y byd cyfryngau cymdeithasol ma' rhaid i ti ddod â rhywbeth newydd, felly ma'r merchandise yn dod mas â rhywbeth gwahanol bob hyn a hyn. 

"Felly, gobeithio gweld bod y pum mlynedd nesa' mynd i fod mor llwyddiannus a'r pum mlynedd cynta'."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.