'Balch': S4C y sianel gyntaf i gael golwg ar waith y Gwasanaeth Prawf
'Balch': S4C y sianel gyntaf i gael golwg ar waith y Gwasanaeth Prawf
Mae cynhyrchydd Ar Brawf wedi dweud ei bod yn 'falch' mai S4C yw'r sianel gyntaf i gael mynediad at y Gwasanaeth Prawf.
Mae Anna-Marie Robinson wedi bod yn gweithio ar y gyfres newydd sy’n dilyn troseddwyr yn y gymuned a’r swyddogion prawf sy’n eu cefnogi ers 2020.
Dyma’r tro cyntaf erioed i gamerâu gael mynediad o’r fath at waith y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru a Lloegr.
“Un o’r pethau 'da ni’n fwya' balch ohono fo ydy mai dyma'r tro cyntaf i unrhyw gwmni teledu gael gweld be' mae’r Gwasanaeth Prawf yn ei wneud a chael ffilmio hynny a’i ddangos o - a bod ni’n cael 'neud o’n Gymraeg, bod S4C yn cael hyn gyntaf,” meddai Ms Robinson, sy'n gweithio i gwmni cynhyrchu Darlun.
“Mae hynna’n wych bo' ni wedi llwyddo i wneud hynna.”
Ond dywedodd Ms Robinson bod y syniad wedi dod “bron ar ddamwain”.
“Mi nath y gwasanaeth prawf yn llythrennol landio ar stepan drws Darlun yn ystod y cyfnod clo pedair blynedd yn ôl,” meddai.
“Ac o weld pobl ddiddorol yn mynd a dŵad - y swyddogion prawf a hefyd y bobl oedd ar brawf - o’r adeilad yn ystod y cyfnod, mi ddaru ni ddechrau siarad efo nhw ynglŷn â’r gwaith odda nhw’n neud a meddwl, oes ‘na fwy i hwn, oes 'na raglen teledu yma?”
Gwaith 'pwysig’
Mae’r Gwasanaeth Prawf yn gweithio â throseddwyr i leihau ail-droseddu a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.
Yn 2023, roedd Gwasanaeth Prawf Cymru yn rheoli 10,000 o droseddwyr yn y gymuned ond bydd 30% yn ail-droseddu.
Bwriad y gyfres Ar Brawf oedd i rannu'r “gwaith pwysig” mae'r swyddogion prawf yn ei wneud.
“Mi ddaeth y gwasanaeth prawf on board yn eithaf handi a dweud y gwir,” meddai Ms Robinson.
“Odda nhw’n awyddus iawn i gael cyfres oedd yn rhannu’r gwaith pwysig maen nhw’n 'neud, sef helpu troseddwyr sy’n dod o’r carchar neu wedi bod trwy’r llysoedd i beidio â throseddu eto, i ffeindio ffordd wahanol o fyw, a hefyd i gadw'r gymuned yn ddiogel rhag pobl sy’n ail-droseddu.”
Ar ôl cael y golau gwyrdd gan y Gwasanaeth Prawf, roedd yn rhaid i'r cynhyrchwyr berswadio'r Weinyddiaeth Cyfiawnder.
Nid oedd yn orchest hawdd - fe gymerodd tair blynedd i gael camerâu i mewn i swyddfeydd y Gwasanaeth Prawf yng Ngwynedd a Môn.
“Roedd yn rhaid trafod gyda’r Weinyddiaeth Cyfiawnder sut oedden ni’n mynd i 'neud hyn, sut odda ni’n mynd i ddarlunio’r gwaith odda nhw’n 'neud heb iddo fo fod yn rhy ddiflas, rhy addysgiadol ond hefyd yn rhoi agoriad llygad i’r cyhoedd ynglŷn â natur y gwaith,” meddai.
'Camddealltwriaeth'
Un o brif flaenoriaethau’r gyfres oedd gwella gwybodaeth y cyhoedd am waith y Gwasanaeth Prawf.
“Dwi’n meddwl bod 'na lot o gamddealltwriaeth ynglŷn â natur eu gwaith nhw a hynny am nad oes yna raglenni wedi bod yn y gorffennol yn rhoi darlun.
“A fel 'na 'da ni wedi dysgu mwy dros y degawdau diwethaf am waith yr heddlu, gwaith y llysoedd a be' sy’n digwydd mewn cachardai.”
Yn ôl Ms Robinson, roedd rhoi cyfle i bobl ar brawf rannu eu profiadau yn ‘bwysig’ hefyd.
“Un o’n blaenoriaethau ni oedd dangos i bobl be' sy’n digwydd i adlewyrchu’r gwir, hynny ydy i ffilmio pethau fel maen nhw’n digwydd yn y foment.
“Doedd 'na ddim cyfarwyddo be' i ddeud, sut i ymateb - a dweud y gwir, yn aml iawn doedd pobl ddim yn troi i fyny i gyfnodau oedden ni wedi trefnu i ffilmio.
“Roedd hi’n anodd cadw mewn cysylltiad weithiau. Fedrwn ni ond adlewyrchu pobl fel y maen nhw, ac mae’n gyfrifoldeb mawr i bobl ddeall hynna, mai gwylio yda ni a recordio be sy’n digwydd.
“Mae'n bwysig rhoi cyfle i bobl rannu eu profiadau a rhannu eu cefndiroedd os ydy hynny wedi effeithio ar le maen nhw rŵan yn eu bywydau.”
Bydd y bennod nesaf o Ar Brawf yn cael ei darlledu ar S4C ddydd Mawrth 16 Ebrill am 19:00.