Newyddion S4C

'Hiraeth enfawr': Mab yn rhoi teyrnged i'w dad drwy rannu fideo 'Hen Wlad Fy Nhadau'

13/04/2024
Gruff Glyn ac Aled Glynne Davies

Mae gŵr o Gaerdydd wedi rhoi teyrnged deimladwy i’w dad drwy rannu fideo ohonyn nhw yn canu Hen Wlad Fy Nhadau gyda’i gilydd cyn gemau tîm pêl-droed Cymru.

Bu farw’r cyn-olygydd ar BBC Radio Cymru, Aled Glynne Davies, o Gaerdydd, dros gyfnod y flwyddyn newydd ar ddechrau 2023.

I nodi’r diwrnod y byddai ei dad wedi troi yn 67 oed ddiwedd fis Mawrth eleni, fe wnaeth ei fab Gruffudd Glyn rannu neges ar Instagram.

Ynghlwm â’r neges, fe wnaeth Gruffudd, sydd yn brif leisydd i’r band Melin Melyn, rhannu fideo ohono ef a’i dad yn canu’r anthem gyda’i gilydd ar sawl achlysur gwahanol yn Stadiwm Dinas Caerdydd, cyn gemau Cymru.

Image
Neges Gruff Glyn
Neges Gruff Glyn ar Instagram

Yn ei neges, a rannwyd ar 29 Mawrth, ysgrifennodd Mr Glyn: “Mi fysa Dad yn 67 heddiw.

“Un o fy hoff atgofion i efo Dad oedd cael mynd i gemau pêl droed Cymru efo fo ers pan on i’n bedair mlwydd oed. Dyma oedd ein amser arbennig ni efo’n gilydd.

“Ychydig flynyddoedd yn nôl, am ba bynnag reswm, mi ddechreuon ni gymryd fideos o’n hunain yn canu’r anthem.

“Dwi mor falch bod gen i hwn fel atgof o ddyn mor dyner, annwyl ac addfwyn. Dyma felly ddathliad o’r dyn ei hun a rhywbeth i drysori fy mherthynas i gyda fy Nhad. Am lwcus oeddwn i.

“Dwi wedi penderfynnu rhannu’r fideo gan obeithio ei fod yn gysur i bawb arall sy’n ei golli hefyd.

“Mae gen i hiraeth enfawr amdano bob dydd. Fedrai dal ddim credu ei fod wedi marw, ac efallai bod yr anghred yna yn atgyfnerthu ei fod dal gyda ni, mewn rhyw ffordd neu ei gilydd.

“Diolch i bawb sy’n gofyn sut ydyn ni bob hyn a hyn, ma’n helpu. Diolch i bawb sy’n rhannu atogfion amdano. A phryd bynnag ma rhywun ffansi sgwrsio neu dysgu am Dad, dwi’n fwy na hapus i siarad amdano.

“Ma’n helpu i’w gadw yn fyw mewn rhyw ffordd.

“Penblwydd Hapus Dad x.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.