Ai wythnos waith pedwar diwrnod yw’r ffordd ymlaen yng Nghymru?

ITV Cymru 11/04/2024
Chelsea Thompson

Mae perchennog busnes wedi dweud bod yr wythnos waith pedwar diwrnod wedi gwella “cynhyrchiant” a “hapusrwydd” ymhlith ei staff. 

Daw hyn wrth i grŵp sy’n archwilio i’r newid ddweud y dylai Llywodraeth Cymru, undebau masnach a’r sector cyhoeddus edrych am sefydliadau i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod. 

Roedd Y Gweithgor wedi cael ei ffurfio gan Lywodraeth Cymru yn dilyn galwadau i sectorau cyhoeddus Cymru dreialu wythnos waith fyrrach.

Mae Chelsea Thompson wedi cyflwyno’r wythnos waith pedwar diwrnod i’w salon trin gwallt yng Nghaerdydd, ar ôl y cyfnod clo. 

Roedd hyn yn rhannol oherwydd “bod angen inni ddechrau cadw pellter oddi wrth y cleientiaid a’r staff er mwyn cadw pawb yn ddiogel, a hefyd oherwydd bod h’n ffordd haws i bobl ddod i arfer â gweithio yn y salon eto ar ôl amser hir i ffwrdd," meddai.

Fe wnaeth hi egluro: “Ar ôl i rai misoedd fynd heibio, fe wnaethom ni sylweddoli bod y tîm yn hapusach, bod cynhyrchiant yn well, llai o salwch, a bod iechyd meddwl pawb wedi gwella. 

“Felly, fe wnaethom ni benderfynu ‘iawn, mae hyn yn gweithio, gadewch inni weld os gallwn wneud hyn yn yr hir dymor.’”

Mae Chelsea yn gwneud i hyn weithio trwy agor y salon am wyth awr y dydd, pedwar diwrnod yr wythnos. 

Dywedodd: “Dwi’n meddwl bod y tîm yn mwynhau hyn gormod - dwi yn bersonol yn ei fwyhnau hefyd. Mae yna egni ac awyrgylch neis yn y salon.”

'Effeithiau positif'

Gwyddonydd ymddygiadol ac ymchwilydd iechyd y cyhoedd ym Mhrifysgol Abertawe yw Dr Simon Williams, ac er nad oedd yn rhan o’r grŵp, mae’n cefnogi’r syniad o roi diwrnod ychwanegol i ffwrdd o’r gwaith i bobl. 

Yn siarad am dystiolaeth o brofion eraill, dywedodd Dr Williams: “Mae yna effeithiau positif i sefydliadau. 

“Gall pobl weithio’n fwy cynhyrchiol oherwydd maen nhw’n cael eu gofyn i weithio llai o oriau. Mae yna hefyd yn bendant welliannau o ran lles. 

“Bydd llai yn cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch, gan fod pobl yn gweithio llai o oriau.”

Fodd bynnag, yn ôl y darlithydd seicoleg, gall problemau ddod gyda’r wythnos waith pedwar diwrnod o ran "anghydraddoldeb" gyda rhai o’r gweithwyr yn elwa, tra bod y syniad ddim yn ymarferol i eraill leihau’r nifer o ddiwrnodau maen nhw’n gweithio.

'Hyblygrwydd gweithwyr'

Dywedodd Joel James AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Bartneriaeth Gymdeithasol: “Problem fwyaf yr wythnos waith pedwar diwrnod yw bod hi ddim yn gweithio i bob sector, sy’n golygu bydd hi’n creu amgylchedd gwaith dwy haen, gyda gweithwyr y sector cyhoeddus - sydd wedi’u lleoli mewn swyddfa  - yn mwynhau breintiau sydd ddim ar gael i’r rhan fwyaf o weithwyr y sector preifat neu weithwyr y rheng flaen.

“Wrth gyhoeddi wythnos waith pedwar diwrnod, bydd Llywodraeth Lafur Cymru i bob pwrpas yn lleihau’r oriau sy’n cael eu gweithio gan y sector cyhoeddus am yr un tâl. Nid yw hyn yr un peth â phobl o’r sector preifat yn treialu gweithio’r un nifer o oriau dros bedwar diwrnod yn lle pump.

“Mae Ceidwadwyr Cymru yn cynnig gall yr un manteision o wythnos waith pedwar diwrnod ddod o wella hyblygrwydd y gweithwyr i gymryd amser i ffwrdd i gydbwyso bywyd teuluol ac unrhyw ymrwymiadau eraill."

Dywedodd Llywodraeth Cymru “nad oes unrhyw gynlluniau” eto i gyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod ar draws sector cyhoeddus Cymru. 

Fe wnaeth ychwanegu: “Er bod nifer o fanteision wedi cael eu nodi, mae’r Gweithgor hefyd wedi uwcholeuo’r cymhlethdodau sydd i’w cael, a’r effaith gall hyn gael ar grwpiau ac unigolion wrth fabwysiadu wythnos waith pedwar diwrnod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.