Newyddion S4C

'Fy arwr': Seiclo ar hyd traethau Normandi i gofio am dad-cu

10/04/2024

'Fy arwr': Seiclo ar hyd traethau Normandi i gofio am dad-cu

"Doedd e ddim yn arwr rhyfel, ond oedd e'n arwr i fi."

Bydd dyn sy'n hanu o ardal Aberystwyth yn seiclo am bedwar diwrnod ar hyd traethau glaniadau D-Day i gofio am ei dad-cu.

Roedd tad-cu Rhydian Mason, yr Is-gorporal T. Elwyn Mason yn rhan o laniadau traeth Juno ar 6 Mehefin 1944 yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn ffermwr o Drefeurig ger Aberystwyth, cafodd Elwyn Mason ei alw i'r fyddin am y tro cyntaf yn 1939, a chafodd ei brofiadau ar hyd y chwe blynedd ganlynol effaith fawr arno.

"Hwnna oedd y profiad dirdynnol ga'th e, i weud y gwir," meddai Rhydian Mason wrth Newyddion S4C

"Newid byd yn llwyr. Fuodd fy nhad-cu yn un o filoedd ar filoedd oedd 'na, a dwi'n meddwl lot am y profiadau ga'th e pan oedd e mas 'na, achos crwt 'tha fi oedd e, yn 21 oed falle, yn gweld byd gwahanol iawn i'r byd bach ar y fferm mewn ardal wledig ym Mro Trefeurig."

Image
Elwyn Mason
Elwyn Mason (dde) gyda'i gar yn ystod y rhyfel. Llun: Rhydian Mason

Yn 1940, cafodd Elwyn Mason ei achub fel rhan o Ymgyrch Dynamo, lle cafodd milwyr Prydain a Ffrainc eu hachub o Dunkirk.

Cafodd hynny effaith hirdymor arno, gan gynnwys  y cyflwr PTSD.

"Dwi'n cofio fe'n sôn dipyn am yr hanes yn dianc i Dunkirk a'r profiadau ga'th e fynna, newidodd e yn llwyr.

"Mae nifer wedi gweud, er i 'nhad-cu ddod adre, dad-cu gwahanol iawn da'th adre i'r crwt ifanc aeth mas i ryfel.

"Roeddwn i wedi ffeindio allan am yr hunllefoedd oedd e'n cael yn gyson ers iddo fe ddod adre.

"Pan oedd fy nhad yn grwtyn, roedd e'n cofio fy nhad-cu yn cael flashback. Roedd e mewn cwrcwd ar waelod y grisiau ac yn ei ben, roedd e nôl ar y traeth yn Dunkirk."

'Cyswllt anhygoel'

Bydd taith Rhydian Mason ar gyfer elusen Help for Heroes yn dechrau ar 24 Mehefin am bum niwrnod.

Fe fydd Mr Mason yn dechrau ym mhentref Saint Mere Eglise, sydd ar ochr orllewinol traethau Normandi cyn teithio ar hyd y traethau a gorffen ym Mharis ar 29 Mehefin.

Ysbrydoliaeth y daith yw i gofio am filwyr eraill fel ei dad-cu a ddioddefodd effeithiau'r rhyfel.

Mae Rhydian yn colli ei dad-cu ac yn aml yn cofio'r atgofion roeddynt wedi creu.

"O'n i'n agos iawn i'n nhad-cu fel bob ŵyr efo'i ddad-cu, ma' 'na ryw gyswllt anhygoel rhyngddon nhw a oedd fy nhad-cu a fi ddim tamaid gwahanol. 

"Dwi'n cofio dilyn 'y nhad-cu, dilyn yn ôl ei draed e'n dringo'r mynyddoedd yn bugeilio'r defaid a pethau fel 'ny.

"Diwrnod cneifio, diwrnod dipo, a rhannu'r ŵyn o'r defaid yn y ffald wrth y tŷ. Dyddiau ffantastig i weud y gwir, o'n i fel ci bach yn ei gysgod e bob amser."

'Rhywbeth parhaol'

Ynghyd â’r daith mae Rhydian wedi penderfynu cael tatŵ er cof am ei dad-cu.

Penderfynodd gael tatŵ  ar gefn ei goes yn nodi rhif uned ei dad-cu yn ystod y rhyfel.

Yn ogystal â bod yn atgof parhaol, mae Rhydian Mason yn dweud y bydd yn ei sbarduno adeg y daith.

Image
Tatw Rhydian Mason
Penderfynodd Rhydian i gael rhywbeth parhaol i gofio am ei dad-cu

"Dwi ise rhywbeth i gofio am yr her 'ma, rhywbeth parhaol fydd gennai, a hefyd rhywbeth fyddai'n gallu edrych lawr arno pan fyddai'n neud y daith, pan fydd falle ambell i filltir, ambell i fynydd yn dringo 'mlaen, falle straffaglu ar y pedals.

"Ond fyddai'n gallu edrych lawr ar y tatŵ a meddwl 'wel, dyw hwn ddim byd i gymharu beth aeth fy nhad-cu trwyddo, a'r bois eraill oedd mas efo fe. 

"So jyst rhywbeth i sbarduno fi, i wneud bach mwy o ymdrech, ynde?"
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.