Llyncdwll yn agor ar ffordd y tu allan i ysgol yn Aberystwyth
07/04/2024
Mae’r heddlu wedi dweud ddydd Sul bod llyncdwll wedi agor ar ffordd y tu allan i ysgol yn Aberystwyth.
Mae’r llyncdwll ar Ffordd Waunfawr y tu allan i Ysgol Penglais, medden nhw.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y gwasanaethau brys yn y fan a’r lle.
Maen nhw wedi gofyn i bobl osgoi’r ardal.
Bydd Ysgol Penglais yn ail-agor ar ôl Gwyliau'r Pasg ddydd Mawrth.
Llun gan Tracy Tedaldi.