Matt Hancock yn ymddiheuro am dorri rheolau Covid wedi honiadau o ‘berthynas tu allan i briodas’

Mae gweinidog iechyd Llywodraeth y DU, Matt Hancock, wedi ymddiheuro am dorri canllawiau ymbellhau cymdeithasol yn dilyn honiadau ei fod wedi cael perthynas tu allan i briodas gyda dynes oedd wedi ei chyflogi fel ymgynghorydd arbennig.
Yn dilyn honiadau gan The Sun fMr Hancock wedi cael perthynas gyda Gina Coladangelo, ychwanegodd ei fod o wedi “siomi pobl” a fyddai’n” gwerthfawrogi preifatrwydd dros y sefyllfa bersonol”.
Daw'r newyddion am y berthynas honedig wedi wythnosau helbulus i'r gweinidog iechyd, gyda chyn-ymgynghorydd Boris Johnson, Dominic Cummings yn awgrymu nad oedd gan y prif weinidog ffydd yn ei weinidog iechyd yn ystod y pandemig. Wfftio'r awgrym wnaeth Mr Hancock mewn ymateb.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Swyddfa Prif Weinidog y DU