‘Lwc pur’ yw byw yn hir meddai'r dyn hynaf yn y byd
“Lwc pur” yw byw yn hir yn ôl dyn a gafodd ei eni'r un flwyddyn ac y suddodd y Titanic.
Yr hen-hen dad-cu John Alfred Tinniswood o Lerpwl yw’r dyn hynaf yn y byd yn swyddogol. Mae’n 111 oed a 223 diwrnod ar ôl cael ei eni ar 26 Awst 1912.
Ef yw’r dyn hynaf wedi marwolaeth Gisaburo Sonobe o Japan a oedd yn 112 oed ar 31 Mawrth.
Mae wedi byw 38 mlynedd yn hyn na'i wraig Blodwen Tinniswood (Roberts cyn priodi) a fu farw yn 1986 wedi 44 mlynedd gyda'i gilydd.
“Mae’n lwc pur,” meddai wrth gael ei holi am ei hirhoedledd. “Rydych chi naill ai yn byw am amser hir neu am amser byr a does dim byd allwch chi ei wneud am y peth.”
Dywedodd nad oedd yn bwyta unrhyw beth yn benodol tu hwnt i bysgod a sglodion bob dydd Gwener.
“Rwy'n bwyta'r hyn maen nhw'n ei roi i mi ac felly hefyd pawb arall. Does gen i ddim diet arbennig,” meddai.
“Os ydych chi'n yfed gormod neu'n bwyta gormod neu'n cerdded gormod, os ydych chi'n gwneud gormod o unrhyw beth, rydych chi'n mynd i ddioddef yn y pen draw.”
'Gwella'
Dywedodd John Alfred Tinniswood ei fod wedi gwylio'r tîm mae’n ei gefnogi, Liverpool FC, yn ennill y gynghrair 17 o weithiau ac wyth Cwpan FA.
“Mae’r byd yn newid o hyd,” meddai. “Mae’n gwella yn raddol ond ddim cymaint â hynny. Mae’n mynd i’r cyfeiriad cywir.”
Y person byw hynaf yn y byd yw Maria Branyas Morera o Sbaen, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 117 yn ddiweddar.