Newyddion S4C

Yr Athro Chris Williams wedi marw yn 61 oed

05/04/2024
Yr Athro Chris Williams

Mae'r Athro Chris Williams wedi marw yn 61 oed. 

Ef oedd yn gyfrifol am gyhoeddi cyfrol o ddyddiaduron yr actor Richard Burton, ac roedd yn ddarlithydd ac yn bennaeth adran ym Mhrifysgol Corc yn Iwerddon.

Astudiodd Hanes Modern yng Ngholeg Balliol yn Rhydychen, gan raddio ym 1985 cyn mynd ymlaen i astudio doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhwng 2001 a 2004, roedd yn Athro Hanes Modern a Chyfoes ym Mhrifysgol De Cymru, ac o 2005 i 2013, roedd yn Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.

Dychwelodd i Brifysgol Caerdydd yn 2013 fel Athro Hanes, gan ddod yn Bennaeth yr Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd yno.

Ers 2017, roedd yn Bennaeth Coleg y Celfyddydau, Astudiaethau Celtaidd a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Corc. 

Mewn neges, dywedodd Llywydd Prifysgol Corc, yr Athro John O'Halloran: "Gyda chalon drom a thristwch dwys y mae’n rhaid i mi rannu’r newyddion am farwolaeth ein cydweithiwr uchel ei barch, yr Athro Chris Williams.

"Dechreuodd Chris yn ei rôl fel Pennaeth Coleg y Celfyddydau, Astudiaethau Celtaidd a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym mis Medi 2017 ac mae wedi darparu arweinyddiaeth ragorol yn y Coleg. 

"Roedd yn aelod gwerthfawr o Dîm Arwain y Brifysgol ac yn ffrind a chydweithiwr annwyl i lawer ohonom. Bydd ei absenoldeb i'w deimlo'n ddwfn ar draws ein prifysgol.

"Ar yr amser anodd hwn, mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda phlant Chris a’i annwyl wraig Sara, ei deulu ehangach, ei ffrindiau, a’i anwyliaid. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf iddynt wrth iddynt lywio’r cyfnod anodd hwn o alar a cholled.”

Roedd ei ymchwil yn canolbwyntio ar hanes cymdeithasol a gwledidyddol Casnewydd o ddiwedd y 18fed ganrif i'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd hefyd yn parhau i chwarae rhan flaenllaw mewn prosiectau yn ymwneud â Richard Burton.

Llun: Coleg Prifysgol Corc

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.