Sgamwyr yn gwerthu tocynnau ffug i sioe Taylor Swift yn Nghaerdydd

ITV Cymru 05/04/2024

Sgamwyr yn gwerthu tocynnau ffug i sioe Taylor Swift yn Nghaerdydd

Mae sgamwyr wedi bod yn hacio proffiliau cyfryngau cymdeithasol er mwyn gwerthu tocynnau cyngherdd Taylor Swift yng Nghaerdydd.

Ers cyhoeddi y llynedd ei bod hi’n mynd â’i thaith ‘Eras’ i Ewrop, mae ei dilynwyr wedi bod yn ceisio cael gafael ar docynnau i’w sioe yn Stadiwm Principality ym mis Mehefin 2024. 

Mae sioeau’r gantores yn barod wedi gwerthu allan o gwmpas y byd, gan dorri recordiau gyda’i gwerthiannau. Fe wnaeth sioe Caerdydd werthu allan o fewn munudau, gyda nifer o ‘Swifties’ yn ceisio prynu tocynnau’n ail-law o ganlyniad. 

Fodd bynnag, mae rhai wedi cael eu twyllo gan broffiliau ffug ar gyfryngau cymdeithasol. 

Beth os daw’r sgams o ffrindiau?

Mae llawer o bobl yn adnabod yr arwyddion amlwg pan mae sgamiau'n digwydd, er enghraifft proffils sy’n edrych yn amheus gyda lluniau a dilynwyr ffug neu bost sy’n cynnwys camsillafu a gwallau. 

Ond, mae rhai sgamwyr nawr yn troi at hacio cfrifon unigolion, gan esgus gwerthu tocynnau i’w ffrindiau. 

Gan fod y negeseuon wedi dod oddi wrth gyfrif ffrind, mae pobl yn cael eu twyllo’r ffordd yma.

Image
Neges Facebook Indigo
Nid oedd Indigo Jones wedi postio'r neges yma ar ei chyfrif.

Fe wnaeth proffil Facebook Indigo Jones gael ei hacio gan rywun yn esgus gwerthu tocynnau i’w ffrindiau. 

“Fe wnes i sylweddoli oherwydd roeddwn i’n derbyn negeuson o bobl yn gofyn ‘wyt ti dal yn gwerthu’r tocynnau Taylor Swift yna?’ ac ro’n i fel ‘beth? Sai’n gwerthu unrhyw tocynnau. Mae gen i docynnau, ond dydw i ddim yn gwerthu nhw’,” meddai. 

“Beth odd wedi digwydd, oedd bod yr hacwyr wedi mynd ar fy Facebook i i drïo gwerthu tocynnau Taylor Swift am y gig yng Nghaerdydd ym mis Mehefin eleni.

“Ro’n i’n rili poeni, achos mae gen i lot o ffrindiau agos ar Facebook a dydw i rili ddim eisiau i bobl meddwl mai fi oedd hi, a ‘mod i’n gwerthu tocynnau ac maen nhw’n cael ei sgamio.”

Roedd rhai o ffrindiau Indigo bron â chael eu twyllo’n llwyr gan yr haciwr.

Image
Indigo Jones
Roedd rhaid i Indigo erfyn ar ei ffrindiau i beidio credu mai hi oedd yn gwerthu'r tocynnau. Llun: Tom Williams

 

Dywedodd Indigo: “Fe wnaeth un o’m ffrindiau i ddanfon sgrinluniau ohonyn nhw’n siarad gyda'r hacwyr, ac ro’n nhw ar fin prynu’r tocynnau. Ond yn lwcus i ni, aeth rhywbeth o’i le gyda ‘Messenger’. 

“Ro’n nhw wedi anfon neges ataf fi ar Instagram yn gofyn ‘oh my god ydy hwn yn ti?’ a dywedais, “na, plis peidiwch â phrynu’r tocynnau!’”

Mae gwefannau fel Viagogo a Vividseats yn gwerthu tocynnau swyddogol, ond gall y rhain gostio rhwng £300 a £500. 

Mae sgamwyr fel arfer yn cynnig tocynnau am eu hwynebwerth neu gydag ychydig bach o ostyngiad. 

Bydd y sgamwyr hefyd fel arfer yn rhoi pwysau ar y person sy’n prynu i anfon yr arian yn syth.

Roedd Sian Wyn Williams wedi cael ei thwyllo gan rhywun oedd yn esgus bod yn ffrind i ffrind, ond fe wnaeth hi anfon yr arian cyn iddi sylweddoli bod unrhyw beth yn bod. 

Dywedodd Sian ei bod hi eisiau “codi ymwybyddiaeth i bawb i fod yn swpyr gofalus…dim fel fi”, gan ychwanegu ei bod yn ‘cicio’i hun am beidio sylweddoli’.

Image
Sian Wyn Williams
Penderfynodd Sian Wyn Williams rybuddio pobl am y sgamwyr


Roedd Indigo hefyd eisiau cynnig cymorth i unrhyw un sy’n edrych am docynnau Taylor Swift: 

“Dwi’n meddwl y cymorth gorau gallaf roi yw edrych mewn i’r negeseuon a gofyn i’ch hun ‘ydy hyn yn swnio fel y person dwi’n nabod?’, oherwydd roedd yna lot o gamsillafu yn y post yn trïo bod yn fi. 

“Ond ro’n nhw’n defnyddio’r un ffordd o siarad ac emojis byddwn i’n defnyddio! Felly mae’n rili realistig, ond edrychwch ar y manylion a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ailwirio’r holl fanylion a’u bod nhw’n gwerthu tocynnau go iawn.”

Prif lun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.