Sain Ffagan: Tafarn Y Vulcan ar fin croesawu ei chwsmeriaid cyntaf mewn degawd
Mae amgueddfa Sain Ffagan wedi cyhoeddi y bydd tafarn y Vulcan yn ail-agor yn fuan ar ôl cael ei symud yno o strydoedd Caerdydd.
Bydd Gwesty’r Vulcan Hotel yn agor i ymwelwyr yn Amgueddfa Werin Cymru ar 11 Mai 2024, meddai Amgueddfa Cymru.
Agorodd Gwesty’r Vulcan yn 1853 ar Adam Street, Newtown, canolbwynt cymuned Wyddelig Caerdydd - ond fe gaeodd drysau’r dafarn am y tro olaf yn ei lleoliad gwreiddiol yn 2012.
Ar ôl ymgyrch i arbed y dafarn, fe wnaeth tîm adeiladau hanesyddol Amgueddfa Cymru wedyn ddymchwel yr adeilad eiconig fesul bricsen a’i symud i Sain Ffagan.
Bydd y Vulcan ar ei newydd wedd yn cael ei chyflwyno fel ag yr oedd hi yn 1915, blwyddyn bwysig i’r dafarn. Roedd hi newydd weld gwaith ailwampio mawr pan ychwanegwyd y teils brown a gwyrdd ar flaen yr adeilad, ac ail-ddylunio’r ystafelloedd.
Dywedodd Bethan Lewis, Pennaeth Amgueddfa Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ei bod yn “gwybod cymaint mae pobl wedi bod yn edrych ymlaen at weld y dafarn yn agor yn Sain Ffagan”.
“Mae ein tîm o arbenigwyr adeiladau hanesyddol a churaduron wedi bod yn gweithio’n galed i ail-greu’r dafarn yn 1915, a bydd hi’n bleser gweld ymwelwyr yn cael blas ar adeilad arbennig yn hanes Caerdydd.”
Pan fydd hi’n agor i’r cyhoedd bydd y Vulcan yn gwerthu cwrw wedi’i fragu’n arbennig gan Glamorgan Brewing Co.