Llwyddiant i Sara Davies yn yr Ŵyl Ban Geltaidd
Llwyddiant i Sara Davies yn yr Ŵyl Ban Geltaidd
Mae cyfansoddwr cân fuddugol Cân i Gymru eleni wedi cipio’r wobr am y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.
Daeth Sara Davies yn fuddugol am berfformio ei chân 'Ti' o flaen panel o feirniaid nos Iau.
Fe gafodd ei gwahodd i gystadlu fel enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru, gan mai'r gân fuddugol o'r gystadleuaeth sy'n mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn flynyddol.
Mae Sara wedi ennill Cwpan yr Ŵyl Ban Geltaidd yn ogystal â gwobr ariannol o €1,500.
Roedd hi’n cystadlu yn erbyn cynrychiolwyr o’r chwe gwlad Geltaidd.
Gŵyl gerddorol flynyddol a gynhelir yn Iwerddon ac a fynychir gan gynrychiolwyr o'r Gwledydd Celtaidd yw'r Ŵyl Ban Geltaidd.
Eleni mae'r Ŵyl yn cael ei chynnal yn nhref Carlow yn y weriniaeth, ac fe berfformiodd Sara yn perfformio ei chân yn y Visual Theatre.
Wrth siarad â Newyddion S4C cyn y gystadleuaeth ddydd Iau, fe ddywedodd Sara: "Dwi newydd gael sound check, a dwi wedi clywed un neu ddau o'r lleill felly mae'r nerves yn dechrau cicio i mewn. Ond dwi yn rili excited ac yn edrych ymlaen."