Newyddion S4C

'Sioc' ffermwr ar ôl i ddafad eni chwe oen yn Sir Benfro

'Sioc' ffermwr ar ôl i ddafad eni chwe oen yn Sir Benfro

Fe gafodd ffermwr "sioc fawr" wedi i un o'i ddefaid rhoi genedigaeth i chwe oen yn ddiweddar.

Roedd Lewis Jones, 24 oed yn gweithio ar ei fferm ym mhentref Amroth, Sir Benfro ac yn disgwyl i un o'i ddefaid eni tri oen.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod wedi sylwi bod y ddafad yn dal yn edrych yn eithaf mawr ar ôl geni'r tri oen.

"Roeddwn i'n gwybod bod hi'n cael tri, achos roeddwn i wedi sganio hi a gweld bod 'na dri oen yna," meddai.

"Roedd y cyntaf wedi dod allan, roedd hi'n cael bach o drafferth gyda'r ail ac yna fe ddaeth y trydydd. Ond sylweddolais i fod hi dal yn edrych yn eithaf mawr."

Penderfynodd Mr Jones roi ei law yn ôl i mewn i'r ddafad, gan sylwi bod 'na fwy o ŵyn i ddod.

"Roeddwn i'n gallu teimlo dau oen arall, a dwi'n cofio gweld ar Facebook un ddafad yn geni chwe oen, felly meddyliais i 'well i fi wirio rhag ofn bod 'na chwe oen', ac fe oedd na un arall.

"Roedd e'n syrpreis, sioc fawr a dweud y gwir. Mae gennym ni gamera yn y sied defaid ac roeddwn i'n gwybod bod fy nghariad yn gwylio, ac roeddwn i'n tybio os oedd hi'n sylwi bod 'na chwech."

Bellach mae'r chwech yn iach ac yn derbyn gofal ar fferm Llechwedd.

Image
Chwech oen yn cael eu geni yn Sir Benfro
Y chwe oen yn holliach. Llun: Lewis Jones

'Newyddion da wedi cyfnod anodd'

Ychwanegodd Lewis Jones bod genedigaeth y chwe oen yn newyddion da, a hynny yn dilyn cyfnod anodd iddo.

Dros y misoedd diwethaf mae haint Schmallenberg wedi cael effaith ar ŵyn y fferm, ac fe gollodd Mr Jones bron i chwarter ohonynt o ganlyniad.

"Mae wedi bod yn struggle ar adegau, yn enwedig ar ddechrau'r flwyddyn.

"Collais i tua 20% o'r ŵyn cynnar oherwydd hynny, roedd hynny yn anodd i ddelio gyda."

Ond mae geni chwe oen yn rhywbeth prin sydd yn cael ei groesawu ar y fferm.

"Mae'n rili neis, a bod rhywbeth prin fel hyn wedi digwydd ar fy fferm i, mae'n wych."

Prif lun: Lewis Jones

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.