Newyddion S4C

Teyrngedau i fam 'ymroddgar' o Fangor a gododd filoedd i elusennau plant

04/04/2024
Glenis Pearce

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fam 'ymroddgar' o Fangor a gododd filiynau o bunnoedd i elusennau plant.

Bu farw Glenis Watkin Pearce yn 91 oed ar 16 Chwefror ar ôl blynyddoedd o ddioddef â chryd y cymalau (arthritis).

Roedd Ms Pearce yn angerddol dros godi arian ar gyfer elusennau plant yn dilyn marwolaeth ei merch ifanc Bronwen, a oedd ag anableddau difrifol. 

Roedd hefyd yn wyneb cyfarwydd i nifer ym Mangor, ble’r oedd yn gwirfoddoli yn y ciosg gwybodaeth ar Bier y Garth am bron i chwarter canrif. 

Dywedodd ei mab David Pearce ei bod yn “ddynes gref, ddewr a di-ofn”.

“Roedd cyflwr Bronwen angen gofal bron 24/7 ac ni allai mam fod wedi bod yn fwy ymroddedig.

“Ond cafodd mam ei hysbrydoli i wneud ei holl waith elusennol gan farwolaeth fy chwaer. 

“Cododd sawl £100,000 dros y blynyddoedd i elusennau plant dros gyfnod o 50 mlynedd – hyd yn oed hyd at ei nawdegau.

“Fe gododd lawer i hosbis Alder Hey, Hosbis Claire House ac Ysgol Delyn yn Yr Wyddgrug, yn ogystal ag elusennau Landmine.”

Fe enillodd gydnabyddiaeth am ei gwaith elusennol yn y wasg leol, ac fe ymddangosodd ar y rhaglen BBC Songs of Praise ac ar banel BBC Radio Cymru.

Fe gafodd hefyd ei gwahodd i barti ym Mhalas Buckingham.

“Roedd hi’n ddynes gref, ddewr a di-ofn,” meddai Mr Pearce.

“Roedd hi’n unfrydol hefyd, ond yn ddinesydd ffyddlon iawn o’r ddinas, yn ddiysgog yn ei chefnogaeth i elusennau plant a’i ffrindiau agos gerllaw.

“Yn anad dim, roedd hi’n ferch, yn fam ac yn nain a oedd yn warchodol ac yn hynod falch o’i theulu.

“Heb os, mae Bangor wedi colli pencampwr go iawn y ddinas – roedd hi’n hynod falch o’r lle ond bob amser yn barod i herio’r rhai mewn awdurdod i wella a datblygu’r gymuned.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.